Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Partneriaeth newydd Dysgu Cymraeg gyda Duolingo

Partneriaeth newydd Dysgu Cymraeg gyda Duolingo
Disgrifiad llun isod, o'r chwith i'r dde: Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol; Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan; Colin Watkins, Rheolwr Gwlad DU Duolingo; Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg; a'r tiwtor Dysgu Cymraeg, Richard Morse.

Trosglwyddo awenau cwrs Cymraeg Duolingo
i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Bydd cyfrifoldeb dros y cwrs Cymraeg poblogaidd ar Duolingo yn trosglwyddo i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

O fis Hydref 2021, bydd Adran Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Genedlaethol yn cymryd yr awenau oddi wrth y criw o wirfoddolwyr brwdfrydig, sydd, dan arweiniad y tiwtor Cymraeg, Richard Morse, wedi cynnal y cwrs ers iddo gael ei lansio ar Duolingo ym mis Ionawr 2016.

Mae’r datblygiad – y cyntaf o’i fath - yn rhan o fenter ehangach gan Duolingo i symud o fodel sy’n seiliedig ar wirfoddolwyr i gynnal rhai cyrsiau yn fewnol a datblygu eraill mewn partneriaeth â chyrff allanol megis y Ganolfan Genedlaethol. 

Yn ôl Adroddiad Iaith Duolingo 2020, Cymraeg yw’r iaith sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain, 44% yn uwch nag yn 2019 – o flaen Hindi, Siapanaeg a Ffrangeg.  Mae’r Adroddiad yn dangos mai dysgwyr Cymraeg sydd ymhlith y rhai sydd mwyaf ymroddedig ac sy’n gweithio galetaf ledled y byd, gan ddod yn drydydd ar gyfer defnydd dyddiol ar gyfartaledd (longest average daily streaks), ac yn drydydd am y nifer fwyaf o wersi a gwblhawyd.

Mae llwyddiant y Gymraeg wedi parhau yn 2021, gyda’r iaith yn curo Rwsieg, Tsieineaidd a Phortiwgaleg i ddod y chweched iaith fwyaf poblogaidd yn y DU, tu ôl i Sbaeneg, Ffrangeg, Almaeneg, Saesneg, Eidaleg a Siapanaeg.  Ar hyn o bryd mae 476,000 o ddysgwyr gweithredol y Gymraeg.  Mae dros 58% o’r dysgwyr diweddar yn y DU, 15% yn yr Unol Daleithiau, a 2% yn Awstralia a Chanada.  Mae’r gweddill wedi’u rhannu fwy neu lai rhwng pob gwlad arall ar y ddaear, gyda dysgwyr unigol yn Ynysoedd Cook, Ynys Las a Burkina Faso.

Mae’r cwrs – sydd ar gael am ddim ar ap arobryn Duolingo ar apiau iOS ac Android ac ar duolingo.com - yn defnyddio profiadau gemau cyfrifiadurol i helpu dysgwyr i ymarfer a chryfhau eu sgiliau iaith. 

Mae’r Ganolfan Genedlaethol yn barod wedi gweithio gyda gwirfoddolwyr Duolingo i unioni’r cwrs gyda’r cwricwlwm Dysgu Cymraeg.  Mae hefyd yn cyfeirio ei dysgwyr at Duolingo fel eu bod nhw’n gallu adolygu’r hyn maen nhw wedi ei ddysgu yn y dosbarth.

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS, wedi croesawu’r newyddion.  Meddai:  “Mae llwyddiant y cwrs Cymraeg ar Duolingo yn dangos bod galw go iawn i ddysgu’r iaith – dyma newyddion ardderchog wrth i ni weithio tuag at wireddu uchelgais Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Mae Duolingo – ynghyd â’r tîm ymroddgar o wirfoddolwyr sydd wedi gweithio’n galed i ddatblygu a chynnal y cwrs – wedi rhoi cyfleoedd i gymaint o bobl ledled y byd i ddysgu’r iaith, a hoffwn ddiolch iddynt yn fawr iawn.

“Wrth i Duolingo edrych i’r dyfodol, dw i’n falch iawn eu bod nhw wedi uno gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a enillodd ganmoliaeth yn ddiweddar mewn adolygiad annibynnol am ei gweledigaeth glir i gefnogi dysgwyr i ddod yn siaradwyr yr iaith.  Bydd y bartneriaeth newydd yma yn creu hyd yn oed yn fwy o gyfleoedd i bobl fwynhau dysgu a defnyddio’r Gymraeg.”

Meddai Colin Watkins, Rheolwr Gwlad DU Duolingo: “Mae’r Gymraeg wedi bod yn llwyddiant ysgubol ar Duolingo, diolch i waith ardderchog Richard a’r tîm.  Gwirfoddolwyr, gan gynnwys ein cyd-sylfaenydd, Luis von Ahn, ysgrifennodd gyrsiau cynnar Duolingo, ond wrth i’r ap ddod yn fwy poblogaidd, ynghyd â’r nifer o ieithoedd sy’n cael eu cynnig, bellach dros 100 a mwy i ddod, roedden ni eisiau ffurfioli’r ffordd mae’r cyrsiau yn cael eu creu.  Mae’n bwysig i ni ein bod ni’n cydweithio gyda’r partneriaid cywir ac mae’r bartneriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn berffaith.  ’Dyn ni’n hyderus y bydd eu tîm yn gallu parhau gyda’r gwaith ardderchog a ddechreuwyd gan Richard a’r tîm.”

Ychwanegodd Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sydd wedi arwain y trafodaethau gyda Duolingo: “Mae cwrs Cymraeg Duolingo yn adnodd dysgu gwych ac mae ein dysgwyr wrth eu boddau yn ei ddefnyddio i ymarfer a chryfhau eu Cymraeg.  Bydd y bartneriaeth newydd yma yn ein galluogi ni i unioni cwrs Duolingo yn agosach gyda’n cyrsiau, sydd ar gael ar bum lefel dysgu wahanol.  Byddwn hefyd yn gallu hyrwyddo cyfleoedd dysgu i gymuned Gymraeg Duolingo, gan gynnwys cyrsiau rhithiol, modiwlau hunan-astudio ar-lein a digwyddiadau cymdeithasol ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

“Hoffai’r Ganolfan Genedlaethol dalu teyrnged i’r gwirfoddolwyr sydd wedi gweithio ar gwrs Cymraeg Duolingo – dan ni’n edrych ymlaen at barhau â’u gwaith da ac at groesawu a chefnogi hyd yn oed yn fwy o ddysgwyr Cymraeg.”

Diwedd

 

Nodiadau i’r golygydd:

  • Mae dros 500 miliwn o bobl ledled y byd yn defnyddio platfform dysgu ieithoedd rhad ac am ddim Duolingo, a lansiwyd i’r cyhoedd ym mis Mehefin 2012.
  • Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i chartrefu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
  • Mae’r Ganolfan yn gweithio gyda 11 darparwr cyrsiau i gynnal dosbarthiadau rhithiol, dysgu ar-lein a chyrsiau sy’n cyfuno modiwlau hunan-astudio annibynnol gyda gwersi dan arweiniad tiwtor. Yn gynharach eleni, cafodd y Ganolfan ei hadolygu gan Estyn, a ganmolodd “...arweiniad cadarn a phendant y sefydliad, sy’n cadw budd dysgwyr yn ganolog i’w holl weithgarwch.”

 Y Gymraeg ar Duolingo

Ym mis Mawrth 2015, ysgrifennodd Richard Morse a Kathy Dobbin (arweinydd ymgyrch i gael y Gymraeg ar Duolingo) lythyr at y Guardian i gefnogi cenhadaeth Duolingo.  Fe ddarllenodd tîm cymuned Duolingo y llythyr a chysylltu â Richard i weld a fyddai’n gallu creu cwrs.  Fe ddaeth Richard â chriw o wirfoddolwyr at ei gilydd a chreu’r cwrs a lansiwyd ar Ddydd Santes Dwynwen 2016.  Ers hynny, mae’r cwrs wedi’i ddiweddaru i gynnwys nifer o sgiliau newydd, a dyma un o gyrsiau mwyaf Duolingo o ran nifer y geiriau mae’n bosib dysgu.  Mae sgiliau newydd yn cael eu hychwanegu trwy’r amser, gan gynnwys llawer o gyfeiriadau eraill at Owen a’i bannas.