Mae Tom Trevarthen, sy’n athro Saesneg yn Ysgol Henry Richard yn Nhregaron, yn teimlo ei fod yn athro Saesneg gwell ers iddo ddechrau dysgu Cymraeg yn ystod haf 2022.
Ac yntau yn dysgu mewn ysgol ble mae tua 60% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg adref, a’r mwyafrif yn dilyn eu cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg, mae’n teimlo ei fod yn gallu rhoi mwy o gefnogaeth i’r disgyblion gyda’u sgiliau Saesneg.
Eglurodd Tom, “Mae dysgu Cymraeg yn sicr wedi bod o gymorth i mi wrth ddysgu Saesneg yn yr ysgol. Dw i’n gallu gweld be sy’n digwydd ym mhennau’r plant a sut maen nhw ambell waith yn cyfieithu pethau yn uniongyrchol o’r Gymraeg.
“Dw i’n gweld be sy’n digwydd ac yn gallu esbonio pethau’n well – y pethau sy’n debyg yn y ddwy iaith, ond hefyd y pethau sy’n wahanol.”
Cafodd Tom ei eni a’i fagu yn Lloegr – yn Swydd Hertford nes ei fod yn 11 oed, ac yna Swydd Caergrawnt.
Symudodd i Gymru pan oedd yn 18 oed i astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac er ei fod wedi bod yng nghanol sŵn y Gymraeg ers dros 10 mlynedd, wnaeth e ddim dechrau dysgu’r iaith nes dilyn cwrs haf dwys yn 2022.
Roedd y cwrs yn cael ei gynnal gan ddarparwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Dysgu Cymraeg Ceredigion-Powys-Sir Gâr, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol Aberystwyth.
Dywedodd, “Ro’n i’n barod yn gwybod tipyn o eiriau Cymraeg, ond wnes i ddim dechrau dysgu o ddifri tan haf 2022.
“Dw i wedi gweithio’n galed i ddysgu’r iaith ac wedi ceisio newid fy mywyd er mwyn gwneud yn siŵr mod i’n cael digon o gyfle i ddefnyddio’r iaith.
“Dw i wedi perswadio ffrindiau yn yr ysgol i siarad Cymraeg gyda fi yn yr ystafell athrawon, ac mae gen i ‘lodger’ sy’n siarad Cymraeg - dw i bellach ond yn siarad Cymraeg adref.
“Mae’r disgyblion yn yr ysgol wedi bod yn grêt hefyd - mae nifer o’r disgyblion yn teimlo’n fwy cyfforddus yn siarad Cymraeg, felly mae’n bwysig mod i’n gallu siarad yr iaith.”
Mae cyrsiau Dysgu Cymraeg ar gael am ddim i’r gweithlu addysg. Mae mwy o fanylion ar gael trwy ddilyn y ddolen yma: Cymraeg Gweithlu Addysg | Dysgu Cymraeg