Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dydd Miwsig Cymru

Dydd Miwsig Cymru

Dych chi’n hoffi cerddoriaeth?  7 Chwefror ydy Dydd Miwsig Cymru, sef diwrnod sy’n dathlu cerddoriaeth Gymraeg o bob math.

Os dych chi’n hoffi miwsig indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica neu hip hop, mae cerddoriaeth wych yn cael ei chreu yn y Gymraeg i chi ei mwynhau.

Mae llawer o ddysgwyr wedi cael eu hysbrydoli i ddysgu Cymraeg, ar ôl gwrando ar gerddoriaeth.

Dilynwch y dolenni isod er mwyn dysgu mwy am rai o’n dysgwyr sy’n hoffi cerddoriaeth:

Creu podlediad i ddathlu cerddoriaeth Gymraeg | Dysgu Cymraeg

Canu mewn côr yn helpu Rachel i ddysgu Cymraeg | Dysgu Cymraeg

Siarad Cymraeg, diolch i Gorky’s Zygotic Mynci | Dysgu Cymraeg

Graihagh yn dal ati i ddysgu Cymraeg, diolch i Daniel Lloyd a Mr Pinc | Dysgu Cymraeg

Holi Daniel Minty | Dysgu Cymraeg

“Mae gallu siarad Cymraeg yn teimlo fel superpower” | Dysgu Cymraeg

Hanes Paige, yn ei geiriau ei hun | Dysgu Cymraeg

Cylchgrawn Hwyl yr Haf

Dych chi wedi darllen cylchgrawn Hwyl yr Haf?  Mae llawer o erthyglau am fandiau a cherddorion yn y cylchgrawn. 

Beth am ddilyn y dolenni nesaf er mwyn eu darllen?

Cyfweliad Adwaith (t. 24) - Hwyl-yr-Haf-2022.pdf

Cyfweliad Parisa Fouladi (t. 12) - Hwyl-yr-Haf-2023.pdf

Cyfweliad Tara Bethan (t. 6) - Hwyl-yr-Haf-2024.pdf

llum

Gigs Cymraeg

Neu beth am wylio gig gan Gwyneth Glyn, Robat Arwyn neu Dafydd Iwan er mwyn dathlu’r diwrnod?

Gwyneth Glyn 

Robat Arwyn