Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Graihagh yn dal ati i ddysgu Cymraeg, diolch i Daniel Lloyd a Mr Pinc

Daniel Lloyd

 

Cefnogi ei phlant yn yr ysgol oedd prif reswm Graihagh Pelissier o Ynys Manaw dros ddechrau dysgu Cymraeg, ond mae cerddoriaeth Gymraeg ac ymweliad â Gwersyll yr Urdd Glan-llyn hefyd wedi chwarae rôl bwysig yn ei hysbrydoli i ddal ati.

Fe ddaeth Graihagh, sy’n byw yn yr Wyddgrug, ar draws y cerddor Daniel Lloyd am y tro cyntaf mewn panto yn Theatr Clwyd, a chafodd ei chyfareddu gan ei lais. Yna, cafodd gyfle i dreulio penwythnos gyda dysgwyr eraill yng Ngwersyll Glan-llyn, oedd wedi helpu i godi ei hyder i ddefnyddio’r iaith.

Meddai Graihagh, “Dw i’n cofio gwylio panto ‘Rock ‘n Roll’ yn Theatr Clwyd a chael fy swyno gan lais un o’r actorion – Daniel Lloyd. Roedd ei lais mor anhygoel. 

“Mi wnes i ychydig o ymchwil a dod i ddeall fod ganddo fand oedd yn canu yn Gymraeg sef Daniel Lloyd a Mr Pinc.  Nes i ddechrau gwrando ar ei gerddoriaeth, a wedyn, bandiau eraill Cymraeg, a darganfod byd a diwylliant newydd sbon trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Roedd Graihagh yn dilyn cwrs gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, trwy ei darparwr, Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain, pan ddaeth tiwtor newydd, Eilir Jones, sydd hefyd yn actor a chomedïwr adnabyddus, i’w dysgu. Ac yn ogystal â chael sbort yn y dosbarth, cafodd wybod am benwythnos oedd yn cael ei gynnig gan y Ganolfan Genedlaethol yng Nglan-llyn.

Ychwanegodd, “Dan ni’n gweithio yn galed gydag Eilir, ond hefyd, dan ni’n cael llawer o hwyl, a dw i’n mwynhau’r dosbarthiadau’n fawr iawn.

“Felly, pan welais hysbyseb ar gyfer penwythnos dysgwyr yng Nglan-llyn, ro’n i’n gwybod y dylwn fynd.  Ro’n i braidd yn nerfus, ond r’on i’n gwybod bod yn rhaid i mi ei wneud. Roedd yn benwythnos dwys, ond yn werth chweil ac mi fyddwn i bendant yn ei argymell.”

Ac ers hynny, mae gan Graihagh lawer mwy o ddiddordeb yn yr iaith a’r diwylliant, ac yn manteisio ar unrhyw gyfle i siarad Cymraeg tu allan i’r dosbarth.

Meddai, “Mi ydw i ers hynny wedi ymuno â Dawnswyr Delyn a Chôr y Pentan, ac mae’n hyfryd gallu dysgu mwy am yr iaith a’r diwylliant drwy ddawns a chân.

“O’n i wedi bod yn meddwl am fynd i Glwb Clebran yn y dafarn Saith Seren yn Wrecsam ers tro, a phan welais fod Daniel Lloyd a Mr Pinc yn chwarae yno, rhoddodd yr hwb i mi fynd i’r grŵp sgwrsio a phrynu tocyn ar yr un pryd. 

“Rŵan, dw i’n trio mynd i Glwb Clebran unwaith neu ddwywaith y mis, ac yn mynd i weld fy hoff fandiau yn fyw, mor aml â phosib.”

Mae gŵr Graihagh, Chris, hefyd wedi dysgu Cymraeg, a’r plant yn siarad yn rhugl gan eu bod yn mynychu Ysgol Glanrafon a Maes Garmon.

Ychwanegodd Graihagh, “Dw i wir isio i fy mhlant ymfalchïo eu bod yn gallu siarad Cymraeg a mwynhau popeth sydd gan y diwylliant i’w gynnig iddyn nhw. 

“Rŵan, mae hon yn daith dan ni i gyd yn ei chymryd efo’n gilydd.”

Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Mae Dysgu Cymraeg yn agor y drws ar fyd o gyfleoedd newydd i fwynhau cerddoriaeth, comedi ac adloniant Cymraeg, ac mae’n wych clywed sut mae Graihagh wedi’i hysbrydoli  ar hyd ei thaith iaith.

“Mae Graihagh wedi cofleidio’r Gymraeg ac mae dysgu’r iaith wedi arwain at brofiadau gwerthfawr – llongyfarchiadau enfawr iddi hi a’i theulu.”

Llun: Graihagh Pelissier a Daniel Lloyd

Cafodd Graihagh ei chyfweld ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.  Dych chi'n gallu gwrando eto yma (1:40)