Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

#cariadcymraeg #lovewelsh

#cariadcymraeg #lovewelsh

O nerth i nerth - sut mae'r iaith Gymraeg wedi helpu cariad ffynnu…

Mae pâr o Wynedd wedi darganfod ffordd newydd o gadw eu perthynas yn fyw - trwy'r iaith Gymraeg, gan danio sbarc ychwanegol ar Ddydd San Ffolant.

Mae Wil Bardega a Daisy Bell yn gweithio oriau hir ac yn ffeindio taw eu gwers ar ddydd Mawrth ym Mhlas Heli, Pwllheli yw'r un cyfle y byddant yn ei gael i gymryd amser a ffocysu ar ei gilydd, yn hytrach na’r gwaith.

Ymgartrefodd y pâr yng Nghricieth, Gwynedd saith mis yn ôl a dechreuon nhw ddysgu Cymraeg ym Medi 2017. Gyda thua 70% o boblogaeth Cricieth yn siarad Cymraeg, mae digon o anogaeth yn lleol a chyfleoedd i siarad yr iaith.

Cyfarfu'r cwpl gyntaf ddwy flynedd yn ôl, ond roeddent yn rhy swil i daro sgwrs. Doedden nhw heb weld ei gilydd ers hynny, nes i Daisy ymweld â thŷ ffrind a darganfod mai Wil oedd y lletywr  newydd yno - yn llwyr ar siawns!  Mae Daisy yn cofio, "Doedden ni heb weld ein gilydd ers dwy flynedd ac i mi ddod i fyny a cherdded i mewn i'w dŷ, mae'n rhaid bod Wil wedi cael syrpreis!" Ac mae’r ddau wedi bod yn gariadon ers hynny.

Mae dysgu Cymraeg yn her newydd sbon i'r ddau, gan fod Wil yn wreiddiol o Wlad Pwyl ac er bod Daisy wedi ei geni yng Nghymru, Saesneg yw ei mamiaith. Maent yn teimlo bod gwersi Cymraeg yn rhoi cyfle iddynt fod gyda'i gilydd, wrth iddyn nhw ymarfer, gwneud gwaith cartref a chael cwis yn aml.

Meddai Daisy: "Yr her fwyaf wrth ddysgu Cymraeg yw'r hyder i siarad â phobl eraill. Cyn gynted ag y bydd y rhwystr hwnnw'n diflannu a dach chi'n teimlo ei fod yn ddiogel i wneud hynny, yna mae'n dod yn un o’r pethau hawsaf yn y byd. "

Ychwanegodd: "Y peth mwyaf gwerthfawr am ddysgu Cymraeg yw'r adborth cadarnhaol a gewch pan dach chi'n siarad yr iaith â siaradwyr Cymraeg. I'r bobl sy wedi’u magu yma, mae'r iaith mor bwysig. Ac mae cefnogi hyn trwy ddysgu Cymraeg yn rhoi boddhad i William a minnau.

Meddai Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin, un o ddarparwyr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

"Mae yna lawer o resymau pam fod pobl yn dysgu Cymraeg - ac mae'n amlwg inni fod pobl yn aml yn dysgu am rai rhamantus!”

Diwedd