Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dysgu am Dryweryn

Dysgu am Dryweryn

Dysgwyr Gwent yn dysgu am Dryweryn

Bydd dysgwyr Cymraeg ardal Gwent yn cael cyfle i ddysgu mwy am hanes Tryweryn mewn digwyddiad arbennig ar gampws Coleg Gwent, Pontypŵl, yfory (dydd Mawrth, 17 Medi) am 10.30am.

Bydd yr awdur a’r actor Gareth Thomas yn rhoi hanes Tryweryn a phentref Capel Celyn yn y sesiwn, sydd wedi’i threfnu gan Dysgu Cymraeg Gwent, sy’n cael ei redeg gan Goleg Gwent ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a Gŵyl Newydd, gŵyl Gymraeg Casnewydd.

Bydd geirfa ar gael i helpu dysgwyr a bydd cyfle i ail-greu murlun eiconig Cofiwch Dryweryn.   

Am fwy o wybodaeth am y sesiwn, ebostiwch helen.young@coleggwent.ac.uk neu ffoniwch 01495 333710.