Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dysgu Cymraeg gyda Gwobr Dug Caeredin

Dysgu Cymraeg gyda Gwobr Dug Caeredin

Mae Gwobr Dug Caeredin (DofE) a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi cyhoeddi fod adnodd Dysgu Cymraeg wedi’i ychwanegu at adran sgiliau’r Wobr.

Mae’r adnodd newydd wedi’i greu yn arbennig ar gyfer ymgeiswyr y Wobr, rhaglen wirfoddol ar gyfer pobl ifanc, er mwyn rhoi cyfle i unigolion ddatblygu sgiliau Cymraeg a dysgu mwy am ddiwylliant Cymru.

Y Ganolfan sydd wedi datblygu’r adnodd, sy’n cynnwys 13 uned sy’n cyfuno hunan-astudio ar-lein gyda thasgau ymarferol.  Mae’r unedau yn cyflwyno geiriau, ymadroddion a phatrymau iaith, gan ddilyn themâu fel cerddoriaeth a diwylliant Cymru. 

Mae’r datblygiad yn rhan o ddarpariaeth y Ganolfan ar gyfer pobl 16-25 oed.  Mae’r garfan hon yn gallu dilyn cwrs Dysgu Cymraeg am ddim, gyda chyrsiau ac adnoddau penodol ar gael.  Mae cynllun ‘Tiwtoriaid Yfory’ y Ganolfan yn denu doniau ifanc i’r sector, ac mae cyfleoedd i ddysgu’r iaith yn y gweithle, mewn prifysgolion a cholegau, ac yn y gymuned.

Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, “Mae dysgu sgìl newydd yn rhoi hyder i chi ac yn agor y drws ar fyd o bosibiliadau, ac mae hynny’n wir am ddysgu’r Gymraeg – mae’n gyfle i gwrdd â ffrindiau newydd, magu diddordebau gwahanol ac ehangu dewisiadau gwaith.

“Nod y Ganolfan yw creu cyfleoedd newydd i bobl o bob oed fwynhau dysgu a siarad Cymraeg, ac rydyn ni’n falch iawn o’r bartneriaeth gyda’r DofE, fydd yn helpu denu cynulleidfaoedd newydd at yr iaith.”

Meddai Stephanie Price, Cyfarwyddwr Gwobr Dug Caeredin yng Nghymru, “Rydyn ni’n hynod o falch o allu cynnig yr adnodd newydd yma, yn rhad ac am ddim, i’r rhai sy’n cymryd rhan yn y DofE.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau a hyder i ffynnu yn eu dyfodol, ac mae’r adnodd Dysgu Cymraeg yn ychwanegu at y cyfleoedd sydd ar gael i gyfranogwyr DofE.”

Yn y llun, o’r chwith i’r dde: Meinir Ebbsworth, Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg; Dylan o Gaerdydd, un o lysgenhadon Gwobr Dug Caeredin, sy’n dysgu Cymraeg ac sy’n dilyn y sgil Dysgu Cymraeg newydd; a Stephanie Price, Cyfarwyddwr Gwobr Dug Caeredin yng Nghymru.