Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dysgu Cymraeg i Ffrancwyr yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd

elwyn hughes

Bydd y tiwtor profiadol, Elwyn Hughes, yn teithio i Nantes, Ffrainc ddechrau mis Hydref i gynnal gwersi Cymraeg gyda thrigolion y ddinas a gwirfoddolwyr cyn bod Cymru yn wynebu Georgia yng Nghwpan Rygbi’r Byd.

Yn wreiddiol o Ruthun, ond bellach yn byw ar gyrion Pontypridd, bydd Elwyn yn ymweld â Nantes rhwng 3-6 Hydref, fel rhan o gynllun ar y cyd rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.

Bydd yn cynnal gwersi Cymraeg i oedolion a phobl ifanc yn ‘Maison de l'Europe’, canolfan Ewropeaidd yn y ddinas; bydd hefyd yn dysgu Cymraeg i wirfoddolwyr lleol, a fydd yn helpu croesawu’r torfeydd i gêm Cymru yn erbyn Georgia ar 7 Hydref.

Mae Nantes wedi’i gefeillio gyda Chaerdydd ers 1964, ac o ganlyniad, mae amryw o drigolion y ddinas yn ymwybodol o Gymru a’r Gymraeg.  Bydd ymweliad Elwyn, sydd wedi ei gefnogi gan dîm Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, yn cyd-fynd â nifer o ddigwyddiadau eraill yn Nantes sy’n hyrwyddo Cymru a’r Gymraeg fel rhan o gynllun ‘Cymru yn Ffrainc’ Llywodraeth Cymru.

Mae ‘Cymru yn Ffrainc’ yn ddathliad blwyddyn o hyd o ddigwyddiadau diwylliannol, busnes a chwaraeon er mwyn cryfhau’r cysylltiadau unigryw yn ein hanes a’n diwylliant a meithrin cysylltiadau newydd rhwng ein dwy wlad.

Yn ogystal â’r gwersi Cymraeg, bydd y gêm yn cael ei dangos yn ‘Maison de l'Europe’ gyda sesiwn blasu cwrw, gwin a chwisgi Cymreig.  Bydd arddangosfa ‘Cymru trwy ei llwybrau’ i’w gweld yno hefyd, rhwng 4-20 Hydref.

Meddai Elwyn, sy’n siarad Ffrangeg ac sydd wedi byw yn Llydaw a Quebec:   

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at ymweld â Nantes, a hynny am y tro cyntaf erioed. Mi fydd hefyd yn brofiad newydd i mi fod yng nghanol bwrlwm Cwpan Rygbi’r Byd a’r holl ddigwyddiadau yn ymwneud â Chymru.

“Yn y gwersi ar gyfer oedolion a phobl ifanc yr ardal yn ‘Maison de l'Europe’, mi fydda i’n cyflwyno Cymru iddyn nhw – ein hanes a’n diwylliant – ac ychydig bach o Gymraeg.

“Yna, mi fydda i’n rhoi gwersi i’r gwirfoddolwyr fydd yn gweithio yn ystod gêm olaf Cymru yn eu grŵp, yn erbyn Georgia.  Dw i’n siŵr y bydd ’na amryw o gefnogwyr Cymru fydd yn synnu o gael stiwardiaid yn Ffrainc yn eu cyfarch yn Gymraeg!”

Bu Elwyn yn diwtor Dysgu Cymraeg am dros 40 mlynedd, cyn iddo ymddeol yn ddiweddar. Mae wedi dysgu miloedd o bobl i siarad Cymraeg, ac wedi hyfforddi tiwtoriaid yn y maes hefyd.

Ychwanegodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Dan ni’n hynod gyffrous y bydd y Gymraeg yn cael ei dysgu allan yn Ffrainc fel rhan o fwrlwm Cwpan y Byd.  Y prif nod fydd ennyn diddordeb yn y Gymraeg a Chymru, a dan ni’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am y cyfle yma.

“Roedd Elwyn yn ddewis amlwg ar gyfer y prosiect gan ei fod yn siarad Ffrangeg ac yn diwtor Dysgu Cymraeg profiadol ac uchel ei barch.  Bonne chance, Elwyn!”