Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dysgu iaith yn galluogi Eva i arwain sesiynau ioga i blant drwy gyfrwng y Gymraeg

Dysgu iaith yn galluogi Eva i arwain sesiynau ioga  i blant drwy gyfrwng y Gymraeg

Mae dysgu Cymraeg wedi agor drysau i Eva Huw, sy’n wreiddiol o Malmesbury, Wiltshire, gan gynnwys y cyfle i gynnal dosbarthiadau ioga i blant trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghaerdydd, lle mae bellach yn byw.

Mae Eva, sy’n gweithio i Brifysgol Metropolitan Caerdydd (Met Caerdydd) fel cydlynydd cynadleddau, yn cynnal y sesiynau poblogaidd i blant 7-11 oed yng Nghanolfan Hamdden Llanisien, fel rhan o raglen ddigwyddiadau sy’n cael ei threfnu gan Fenter Caerdydd.

Dechreuodd Eva ddysgu’r iaith 15 mlynedd yn ôl, ar ôl iddi gyfarfod ei gŵr, Owain, siaradwr Cymraeg o Geredigion, tra roedd y ddau ar wyliau yn Sir Benfro.

Symudodd y pâr i Abertawe ac ar ôl ychydig o wersi fe gymerodd Eva ei addunedau priodas yn Gymraeg.  Parhaodd i ddysgu, ac ar ôl iddynt symud i Landeilo i redeg Gwesty Gwely a Brecwast Pump Seren, cafodd Eva y cyfle i ddefnyddio’i sgiliau newydd gyda’i chwsmeriaid.

Cafodd y ddau fab, ac fe ddechreuodd Efa gynnal grŵp chwarae cyfrwng Cymraeg yn Llandeilo, a’i helpodd i gryfhau ei sgiliau Cymraeg.  Mae’r teulu bellach yn byw yng Nghaerdydd ers sawl blwyddyn ac mae ei mab 10 mlwydd oed yn ddisgybl yn un o ysgolion cynradd Cymraeg y ddinas.

Ar ôl cyfnod o seibiant, penderfynodd Eva fanteisio ar gwrs ‘Cymraeg Gwaith’ yn ei gweithle, sy’n cael ei ariannu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n cyd-weithio â phrifysgolion, colegau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau i ddatblygu cyfleoedd i fyfyrwyr, dysgwyr a hyfforddeion drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Eva yn dilyn cwrs lefel Uwch ar gyfer dysgwyr profiadol ac mae hi hefyd yn aelod o’r grŵp ‘Coffi a Chlonc’ yn y gwaith, sy’n gyfle anffurfiol iddi ymarfer ei Chymraeg gyda’i chyd-weithwyr.

Eva Huw

Eglura Eva, “Cyn i mi gyfarfod fy ngŵr, doeddwn i ddim hyd yn oed yn sylweddoli bod y Gymraeg yn iaith fyw, ond yn gyflym ar ôl ei gyfarfod ro’n i’n awyddus i ddysgu. Mae’n wych gallu defnyddio fy sgiliau Cymraeg a phan o’n i’n rhedeg y gwesty yn Llandeilo, roedd siarad Cymraeg gyda’r cwsmeriaid yn gwneud gwahaniaeth i’w profiad.

“Doeddwn i heb ddilyn cwrs am flynyddoedd, ac felly wnes i fachu ar y cyfle i wella fy sgiliau yn y gweithle. Mae’r gallu i gynnig gwasanaeth dwyieithog i gleientiaid yn bwysig i’r Brifysgol ac ro’n i eisiau magu hyder i ddefnyddio fy Nghymraeg mewn cyd-destun proffesiynol.”

Ychwanega: “Dw i wedi ymarfer ioga ers dros 20 mlynedd - mae’n un o’r pethau dw i’n mwynhau mwyaf mewn bywyd - felly mae’n gyffrous gallu cynnig cwrs cyfrwng Cymraeg i blant gyda Menter Caerdydd.  Mae’n gyfle i ymarfer fy Nghymraeg ac mae’n wych bod fy mab hefyd yn mwynhau dod i’r gwersi!

“Dw i’n caru dysgu’r iaith - dw i ddim yn credu y bydda i byth yn stopio dysgu.  Fy nghyngor i unrhyw un sy’n ystyried dysgu Cymraeg yw i fynd amdani!”