Mae myfyriwr ymchwil 26 oed o Gymoedd y Rhondda, Lewis Campbell, yn gobeithio creu ap a fydd yn galluogi dysgwyr Cymraeg i fwynhau ymarfer eu Cymraeg trwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI).
Fel dysgwr Cymraeg ei hun, gwelodd Lewis y gallai wneud defnydd da o’i radd Meistr mewn Peirianneg Meddalwedd trwy ddefnyddio AI a phrosesu iaith naturiol i greu ap adnabod lleferydd i helpu dysgwyr Cymraeg.
Bydd yn datblygu’r ap fel rhan o’i radd ymchwil PhD o fewn yr adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Bangor. Mae Lewis yn dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin, sy’n cael ei gynnal gan y brifysgol ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Eglura Lewis, “Dw i’n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd, a dw i’n teimlo’n ddigon cyfforddus yn siarad yn y dosbarthiadau a gyda ffrindiau da, ond pan mae’n dod i geisio siarad gyda phobl tu allan i’r cylch diogel yna, does gen i ddim yr hyder i ddweud llawer.
“Felly, fy syniad i oedd creu ap a fyddai’n helpu i wella sgiliau sgwrsio a magu hyder i ddefnyddio’r iaith. Bydd yr ap yn gallu ‘ateb’ y defnyddiwr a rhoi adborth ar ynganiad neu os oedd strwythur brawddeg yn gywir ai peidio.
“Bydd ganddo hefyd sefyllfaoedd lle gallech chi fod eisiau defnyddio’r iaith – fel mynd i mewn i’r siop i brynu llaeth, archebu bwyd mewn caffi ac ati.”
Dechreuodd Lewis ei daith iaith ar ap Duolingo. Ychwanegodd, “Os dw i’n onest, pan ddechreuais i gyda Duolingo, dysgu Iseldireg oedd fy mlaenoriaeth. Ar y pryd, ro’n i'n chwarae llawer o gemau ar-lein gyda ffrindiau o'r Iseldiroedd, a ro’n i eisiau gallu ymuno yn y sgwrs.
“Yna tra ro’n i’n ei ddefnyddio, fe ryddhaodd Duolingo eu cwrs Cymraeg a meddyliais yr hoffwn roi cynnig arni. Dyna pryd nes i syrthio mewn cariad â’r Gymraeg.”
Ers hynny, mae Lewis wedi defnyddio ap SaySomethinginWelsh hefyd cyn dilyn cwrs Dysgu Cymraeg yn haf 2021. Dechreuodd gyda chwrs haf ‘Mynediad’ dwys i ddechreuwyr ac mae bellach yn dilyn cwrs ‘Sylfaen’ wythnosol.
Ychwanegodd, “Dw i’n falch iawn fy mod i wedi dechrau’r daith i ddod yn siaradwr Cymraeg. Mae’n teimlo fel rhywbeth y dylwn allu ei wneud ar ôl byw fy holl fywyd yng Nghymru.
“Mae dysgu Cymraeg fel oedolyn yn brofiad gwahanol iawn i’r gwersi ges i yn yr ysgol. Dw i’n meddwl ei fod yn gwneud gwahaniaeth hefyd mai fi yw’r un sydd bellach yn dewis dysgu’r iaith, ac mae gen i well dealltwriaeth o pa mor ddefnyddiol ydy gallu siarad Cymraeg.
“Ac ar raddfa fach, un o’r pethau gorau ydy mod i’n gallu cyfieithu enwau lleoedd yn llythrennol a deall eu hystyr pan dw i’n teithio o gwmpas!
“Os ydych chi’n berson ifanc sy’n ystyried dysgu Cymraeg, byddwn yn eich annog i roi cynnig arni.”