Edrych 'mlaen at fwrlwm yr Urdd
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn edrych ymlaen at wythnos lawn bwrlwm a phrysurdeb yn Eisteddfod yr Urdd Pen-y-Bont ar Ogwr, Taf ac Elai.
Mae rhaglen yr wythnos yn llawn iawn, a bydd croeso mawr yn eich aros os hoffech ddod i ymweld â ni. Wrth i chi gyrraedd y maes a dod at y Ganolfan Groeso dewch i ddweud helo i staff a dysgwyr lleol. Bydd digon o gyfle i sgwrsio ac i gystadlu mewn cystadleuaeth i ennill lle am ddim ar gwrs dysgu Cymraeg.
Ar y maes ei hun, dewch i stondin y Cwtsh lle bydd gweithgareddau amrywiol ar eich cyfer a lle bydd dysgwyr yn gweini lluniaeth ysgafn.
Ar stondin Mudiad Meithrin ar ddydd Mawrth, 30 Mai am 12.00pm, bydd y Ganolfan yn lansio partneriaeth newydd gyda Mudiad Meithrin. Bydd sesiynau blasu ar gael a bydd hyd yn oed cyfeiriad at ddysgu Cymraeg ym mhasiant y plant. Os oes gyda chi blant bach hefyd, y Ganolfan fydd yn darparu’r bandiau braich ar eu cyfer yn ystod yr wythnos.
Partneriaeth arall gyffrous a gaiff ei lansio yn y Cwtsh am 1.00pm ar y dydd Mawrth yw cynllun newydd gyda Duolingo. Bydd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies AC, yn ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad hwn.
Yn ogystal â’r holl ddigwyddiadau yma bydd cystadleuaeth Cymraeg i’r Teulu ar brynhawn dydd Mercher a’r teulu buddugol yn ennill penwythnos yng ngwersyll yr Urdd Llangrannog. Bydd staff y Ganolfan yn cymryd rhan yn Seremoni Medal y Dysgwyr ar y dydd Mawrth hefyd.
Os mai adref fyddwch chi yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd cadwch lygad am ein hysbyseb deledu a fydd i’w gweld yn ystod rhaglenni’r Urdd ar S4C drwy gydol yr wythnos.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Ben-y-Bont!