
Cyhoeddwyd heddiw (dydd Sadwrn, 2 Awst am 12.00pm yn stondin Llywodraeth Cymru, Maes D) yn Eisteddfod Genedlaethol Wrescam mai Emma Burton sy’n derbyn Tlws y Tiwtor 2025.
Mae’r tlws yn cael ei gyflwyno gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i diwtor sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i’r sector Dysgu Cymraeg.
Yn wreiddiol o Drawsfynydd, ond bellach yn byw yn Wrecsam, cafodd Emma ei phrofiad cyntaf o weithio fel tiwtor ar faes Eisteddfod Wrecsam yn 2011, pan lansiwyd cwrs newydd Cymraeg i’r Teulu. Roedd hwn yn y cyfnod pan oedd cynnydd mewn addysg Gymraeg yn y dref, a bu Emma’n rhan o’r tîm fu’n peilota’r cynllun yn yr ardal.
Ers hynny, mae Emma wedi gweithio fel tiwtor gyda Choleg Cambria a Phrifysgol Bangor, dau o ddarparwyr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Erbyn hyn mae’n diwtor llawn amser ac Arweinydd Cwricwlwm gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain, sy’n cael ei drefnu gan Goleg Cambria ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg.
Yn ôl Jeni Harris, Cyfarwyddwr Cwriclwm Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain: “Ar ran Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain, hoffwn longyfarch Emma ar dderbyn Tlws y Tiwtor a diolch iddi am ei chyfraniad arbennig i’r maes.
“Mae Emma bellach yn gweithio’n bennaf â rhieni, yn eu helpu i hybu defnydd eu plant o'r Gymraeg gartref. Mae ei gallu i drochi ei dysgwyr yn yr iaith a'r diwylliant ehangach, ynghyd â'i brwdfrydedd dros hyrwyddo'r iaith a'r awyrgylch deinamig y mae'n ei chreu yn ei hystafell ddosbarth, wedi dylanwadu ar nifer o rieni i ddewis addysg Gymraeg i'w plant.
“Mae Emma hefyd yn aelod gwerthfawr o’r pwyllgor sy’n trefnu eisteddfod dysgwyr y darparwr. Mae’r eisteddfod dysgwyr yn rhoi profiad diwylliannol dilys i’r rhai sy’n cymryd rhan ac yn meithrin eu hyder i ymgysylltu ac ymdrochi yn ein diwylliant. Yn wir, credaf ei fod yn y pen draw, yn hwyluso eu statws fel siaradwyr Cymraeg newydd.”
Cafodd y tlws ei gyflwyno i Emma gan Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Meddai Dona, “Mae Emma yn enghraifft wych o diwtor sy’n mynd gam ymhellach er mwyn sicrhau bod ein dysgwyr yn croesi’r bont i fod yn siaradwyr hyderus yn y gymuned.
“O annog ei dysgwyr i ddarllen eu llyfr Cymraeg cyntaf i fynychu gig, drama neu sesiwn sgwrsio, mae Emma yn llwyddo i roi hyder i’w dysgwyr i siarad a mwynhau’r Gymraeg tu allan i’r dosbarth a theimlo’n rhan o’r gymuned. Mae ei gwaith gyda rhieni hefyd yn glodwiw iawn – diolch yn fawr iawn, Emma, am dy holl waith yn y gogledd ddwyrain.”
Wrth dderbyn y wobr, meddai Emma, “Mae'n gymaint o anrhydedd derbyn y wobr hon. Dw i wrth fy modd yn gweithio yn y maes ac mae’n fraint cael helpu pobl i ddarganfod y Gymraeg a’i diwylliant, ac i weld eu hyder yn tyfu wrth iddyn nhw ddysgu.
“Ond nid fi yn unig sydd wedi ennill y wobr hon – mae'n adlewyrchu gwaith tîm arbennig hefyd. Hoffwn ddiolch o waelod calon i’m cydweithwyr am eu cefnogaeth, eu cymorth, a’u hysbrydoliaeth barhaus. Mae’n bleser cyd-weithio â nhw.
“Diolch o galon hefyd i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r daith – dysgwyr, mentoriaid, ac, wrth gwrs, ffrindiau. Braint yw cael chwarae rhan fach yn natblygiad y Gymraeg, a dw i’n edrych ymlaen at barhau i rannu’r iaith gyda chariad a llond throl o frwdfrydedd!”