Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Galw am fwy o bobl ifanc i weithio fel tiwtoriaid Dysgu Cymraeg

Galw am fwy o bobl ifanc i weithio fel tiwtoriaid Dysgu Cymraeg

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn awyddus i weld mwy o bobl ifanc yn gweithio fel tiwtoriaid Dysgu Cymraeg ac yn cynnig ysgoloriaeth i fyfyrwyr fynychu cwrs ‘Tiwtoriaid Yfory’ fydd yn eu cyflwyno i’r sector.

Bydd y cwrs pythefnos yn cael ei gynnal rhwng 7 – 18 Gorffennaf eleni, a bydd yn cynnwys gweithdai gyda thiwtoriaid profiadol, a chyfleoedd i arsylwi dosbarthiadau Cwrs Haf Dysgu Cymraeg Caerdydd, un o ddarparwyr y Ganolfan, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol Caerdydd.

Cafodd Tiwtoriaid Yfory ei gynnal am y tro cyntaf yn haf 2022, ac roedd Macsen Brown ar y cwrs y flwyddyn honno. Ers hynny, mae wedi cymhwyso i fod yn diwtor ac wedi bod yn dysgu Cymraeg i oedolion tra’n gorffen ei radd mewn Ieithoedd Modern a Chanoloesol, gan gynnwys yn ystod ei flwyddyn dramor yn Siora ac Estonia yn 2022 a 2023.

Dywedodd Macsen, “Dw i mor falch i mi wneud y cwrs Tiwtoriaid Yfory nôl yn 2022 – do’n i erioed wedi ystyried bod yn diwtor Dysgu Cymraeg cyn hynny.

“Gan fy mod i’n dod o Lundain, y syniad o gael siarad Cymraeg am bythefnos wnaeth fy nenu i’r cwrs, ond erbyn diwedd y pythefnos, ro’n i’n gallu gweld sut y gallai weithio i mi tra’n astudio. Roedd hefyd yn gyfle i ennill arian mewn cyfnod pan fo costau byw yn codi.”

Ar ddiwedd cwrs Tiwtoriaid Yfory, mae ‘na gyfle i’r myfyrwyr gyfarfod gydag arweinwyr y gwahanol ddarparwyr Dysgu Cymraeg i drafod cyfleoedd gwaith posibl.

Ychwanegodd Macsen, “Gan fod gen i deulu ym Mro Morgannwg, roeddwn yn awyddus i weithio gyda darparwyr yr ardal honno. Cychwynnais ddysgu fy nosbarth cyntaf ym mis Hydref 2022, a chael gwneud fy nghymhwyster ‘Dechrau Dysgu’ ar yr un pryd. 

“Ro’n i’n dysgu un dosbarth yr wythnos, a nes i barhau i ddysgu am y ddwy flynedd tra’n gorffen fy ngradd ac yn ystod fy mlwyddyn allan yn Siora  – er mod i adeg hynny’n dysgu fy ngwers o 11 y nos tan 1 y bore yn yr amser lleol yno!

Erbyn hyn, dw i’n dysgu dwy wers yr wythnos ac wedi cael swydd fel tiwtor wyneb-wrth-wyneb mewn coleg yn Llundain. Mae wedi bod yn ffordd wych i gael profiad o fyd gwaith, sydd mor allweddol ar CV pan ydych chi’n chwilio am eich swydd gynta. Mae wedi bod yn gam pwysig i mi ar gychwyn fy ngyrfa.”

Ychwanegodd Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, “A ninnau bellach wedi cynnal y cwrs dair gwaith, mae’r braf gweld gwaddol y cwrs, a chlywed hanes y criw sydd wedi bod arno yn y gorffennol. 

“Mae rhai, fel Macsen, sydd wedi bod yn tiwtora min nos tra’n astudio, ond mae yna rai hefyd sydd wedi dewis gyrfa fel tiwtor ac yn gweithio’n llawn amser i’n darparwyr.”

Bydd rhai o diwtoriaid mwyaf profiadol y sector Dysgu Cymraeg i oedolion yn hyfforddi ar y cynllun yn 2025 ac yn ogystal â sesiynau ymarferol, bydd cyfle i’r myfyrwyr arsylwi gwersi a chlywed gan siaradwyr gwadd.

Ychwangegodd Helen, “’Dyn ni angen cyflenwad cyson o dalent newydd ac mae hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr gael blas ar y gwaith.

“’Dyn ni’n croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr o bob cefndir, ac yn edrych ymlaen at gynnig profiadau dysgu ac addysgu gwerthfawr iddynt.

“Gall myfyrwyr sy’n astudio unrhyw bwnc wneud cais – ’dyn ni’n chwilio am bobl all ysbrydoli eraill i ddysgu a siarad Cymraeg, gyda sgiliau cadarn yn y Gymraeg eu hunain.”

Dyddiad cau ceisiadau ar gyfer cymryd rhan yn y cynllun yw 31 Ionawr 2025 a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu erbyn diwedd mis Mawrth.

Mae mwy o wybodaeth am y cynllun i’w weld ar wefan Dysgu Cymraeg