Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gwers gyfoes newydd yn seiliedig ar y ddrama 'Nyrsys'

Gwers gyfoes newydd yn seiliedig ar y ddrama 'Nyrsys'

Bydd gwers gyfoes newydd yn rhoi blas i ddysgwyr o ddrama ddiweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru, ‘Nyrsys’.

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sydd wedi creu’r wers, sy’n cynnwys ymarferion, cyfweliadau, clipiau fideo, geirfa a phwyntiau trafod.

A hithau’n flwyddyn pan fo’r Gwasanaeth Iechyd yn dathlu 70 mlynedd, mae ‘Nyrsys’, sydd wedi ei hysgrifennu gan Bethan Marlow a’i chyfarwyddo gan Sara Lloyd, yn rhoi cipolwg ar brysurdeb ward canser mewn ysbyty yng Nghymru heddiw.  Mae’r sgript a’r caneuon, a ysgrifennwyd gan Rhys Taylor a Bethan Marlow, yn canolbwyntio ar brofiadau nyrsys - yr heriau a’r hwyl o fod yn rhan o’r alwedigaeth hon.

Mae ‘Nyrsys’ hefyd yn ddrama ‘gair am air’, sy’n golygu bod y ddeialog wedi dod yn uniongyrchol gan nyrsys go iawn.  Mae’r iaith yn fyw ac yn naturiol ac felly mae’r ddrama yn gyfle gwych i ddysgwyr glywed yr iaith a’i hymarfer y tu hwnt i’r dosbarth.

Mae’n braf medru cyflwyno iaith lafar, fyw i ddysgwyr er mwyn iddyn nhw gael ei dysgu, ei defnyddio a’i mwynhau.  Bydd y wers hefyd yn fodd o gyflwyno agwedd ar ein diwylliant cyfoes i’r rheiny sy’n dysgu’r Gymraeg. Mae’r Ganolfan eisoes wedi creu gwersi yn seiliedig ar gynyrchiadau’r Theatr Genedlaethol, sy’n profi’n boblogaidd gyda’n dysgwyr, a ’dyn ni’n falch o barhau’r bartneriaeth.

Helen Prosser, Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

’Dyn ni’n falch iawn bod cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, am yr ail dro eleni, yn thema i un o wersi cyfoes y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’n holl bwysig i ni bod ein cynyrchiadau yn cael eu gweld a’u mwynhau gan ddysgwyr. Dyma bartneriaeth werthfawr dros ben rhwng dau gorff cenedlaethol.

Rhian Davies, Cynhyrchydd Gweithredol Theatr Genedlaethol Cymru

Bydd y wers, sy’n un o gyfres o wersi cyfoes sy’n cael eu creu bob blwyddyn gan y Ganolfan, yn cael ei dysgu i fyfyrwyr lefel Uwch (dysgwyr profiadol) mewn dosbarthiadau ledled Cymru.  Mae’r wers hefyd ar gael, fel adnodd rhad-ac-am-ddim ar Safle Rhyngweithiol y Ganolfan www.dysgucymraeg.cymru  

Yn ystod y perfformiadau, bydd yn bosibl, hefyd, defnyddio ap ‘Sibrwd’ y Theatr Genedlaethol, sy’n cynnig crynodeb Saesneg byw ar gyfer y di-Gymraeg a’r rheiny sy’n dysgu.

Mae’r daith yn cychwyn ar 6 Tachwedd yn ‘Pontio’, Bangor.  Bydd sgyrsiau cyn y perfformiad yn arbennig ar gyfer dysgwyr ar gael mewn sawl un o’r lleoliadau yn ystod y daith. Gellir cael mwy o wybodaeth am y sgyrsiau hyn a rhestr lawn o’r holl berfformiadau ar wefan www.theatr.cymru