
Cyrsiau newydd sbon i ddechreuwyr ar gyfer y Gwanwyn
Bydd cyrsiau Dysgu Cymraeg newydd i ddechreuwyr yn dechrau ar 12 Mai.
Mae’r cyrsiau 10-wythnos, 30 awr o hyd yn cyfuno dysgu o bell dan arweiniad tiwtor gydag astudiaethau ar-lein annibynnol. Mae’r cyrsiau yn ddi-gost.
Mae dewis o ddau amser a dyddiad – 10.00am ar fore Mawrth neu 7.00pm ar nos Fercher – ac mae cyrsiau Cymraeg Gogleddol a Chymraeg y De ar gael.
Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd y dysgwyr yn gallu deall a defnyddio ymadroddion syml pob dydd. Byddant hefyd yn gallu cyflwyno eu hun a gofyn ac ateb cwestiynau am wybodaeth syml.
Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
“Mae’r cyrsiau newydd hyn yn gyfle gwych i’r rheiny sy’n awyddus i ddechrau dysgu o’r newydd. Ers rhai wythnosau bellach mae ein tiwtoriaid Cymraeg wedi bod yn cynnal gwersi o bell gan ddefnyddio llwyfannau cynadledda fideo megis Zoom a Skype ac mae’r ymateb gan ddysgwyr wedi bod yn wych. Mae llu o adnoddau digidol hefyd ar gael ar ein gwefan – dysgucymraeg.cymru - i gefnogi ac atgyfnerthu’r dysgu gyda’r tiwtor.”
Defnyddiwch y ffurflen yma i gofrestru eich diddordeb. Gallwch hefyd ddilyn cyrsiau blasu ar-lein y Ganolfan. Dyma fwy o wybodaeth am lefelau dysgu’r sector.