Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyrsiau newydd ar gyfer dechreuwyr

Cyrsiau newydd ar gyfer dechreuwyr

Cyrsiau newydd sbon i ddechreuwyr ar gyfer y Gwanwyn

Bydd cyrsiau Dysgu Cymraeg newydd i ddechreuwyr yn dechrau ar 12 Mai.

Mae’r cyrsiau 10-wythnos, 30 awr o hyd yn cyfuno dysgu o bell dan arweiniad tiwtor gydag astudiaethau ar-lein annibynnol.  Mae’r cyrsiau yn ddi-gost.

Mae dewis o ddau amser a dyddiad – 10.00am ar fore Mawrth neu 7.00pm ar nos Fercher – ac mae cyrsiau Cymraeg Gogleddol a Chymraeg y De ar gael.

Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd y dysgwyr yn gallu deall a defnyddio ymadroddion syml pob dydd. Byddant hefyd yn gallu cyflwyno eu hun a gofyn ac ateb cwestiynau am wybodaeth syml.

Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Mae’r cyrsiau newydd hyn yn gyfle gwych i’r rheiny sy’n awyddus i ddechrau dysgu o’r newydd.  Ers rhai wythnosau bellach mae ein tiwtoriaid Cymraeg wedi bod yn cynnal gwersi o bell gan ddefnyddio llwyfannau cynadledda fideo megis Zoom a Skype ac mae’r ymateb gan ddysgwyr wedi bod yn wych.  Mae llu o adnoddau digidol hefyd ar gael ar ein gwefan – dysgucymraeg.cymru - i gefnogi ac atgyfnerthu’r dysgu gyda’r tiwtor.”

Defnyddiwch y ffurflen yma i gofrestru eich diddordeb.  Gallwch hefyd ddilyn cyrsiau blasu ar-lein y Ganolfan.  Dyma fwy o wybodaeth am lefelau dysgu’r sector.