Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gwilym Roberts o Gaerdydd yn ennill Tlws Coffa Aled Roberts

Gwilym Roberts o Gaerdydd yn ennill Tlws Coffa Aled Roberts

Cyhoeddwyd heddiw (14 Mai, 2024) yng nghynhadledd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol mai Gwilym Roberts o Gaerdydd ydy enillydd Tlws Coffa Aled Roberts.

Mae’r tlws yn cael ei gyflwyno er cof am Aled, y gwleidydd a chyn Gomisiynydd y Gymraeg, i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol nodedig i’r sector Dysgu Cymraeg.

Mae Gwilym Roberts wedi ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd a bu’n athro Cymraeg mewn tair ysgol gynradd yn y ddinas am 31 o flynyddoedd cyn ymddeol yn gynnar a mynd i ddysgu Cymraeg ym Mhatagonia yn wirfoddol.

Dros y blynyddoedd, mae wedi rhoi gwersi Cymraeg i bobl ifanc chweched dosbarth ardal Caerdydd ac yn diwtor ar gyrsiau penwythnos Grŵp Dysgwyr Cymdeithas yr Iaith, oll yn wirfoddol.

Yn ôl Anne Uruska, a enwebodd Gwilym am y tlws, “Mae Gwilym wedi bod yn ysbrydoliaeth i fi - ac i lawer o bobl eraill.  Roedd yn arfer cynnal dosbarth Cymraeg cyn Aelwyd yr Urdd, i bobl ifanc chweched dosbarth oedd ddim yn rhugl ar y pryd.

“Roeddem ni wedyn yn gallu ymuno yn yr aelwyd yn syth ar ôl y dosbarth pan fyddai’r siaradwyr Cymraeg yn cyrraedd.  Gwilym oedd yn gofalu amdanom yn ystod y gweithgareddau gan roi cymorth i ni ddefnyddio ac ymestyn ein hiaith.

“Aeth nifer ohonom ymlaen i wneud ein hastudiaethau addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg.  Heb gyfraniad Gwilym a’r gwirfoddolwyr eraill, ni fyddai hynny wedi gallu digwydd.”

Roedd Gwilym am nifer o flynyddoedd hefyd yn diwtor ar gyrsiau penwythnos Grŵp Dysgwyr Cymdeithas yr Iaith a byddai’n dod â nifer o diwtoriaid eraill gydag ef i sicrhau llwyddiant y cyrsiau.

Ychwanegodd Anne, “Heb ei weledigaeth ef, ni fyddai bri ar yr iaith Gymraeg fel sydd yn awr – nid yn unig yng Nghaerdydd, ond mor bell â Phatagonia lle bu cyfraniad Gwilym (yn wirfoddol unwaith eto) yn allweddol i adfywiad y Gymraeg yn y Wladfa.”

Yn ôl Llinos Roberts, gweddw Aled Roberts, “Mae gwaith ardderchog yn cael ei wneud gan wirfoddolwyr ar hyd a lled y wlad, ac mae Gwilym yn enghraifft berffaith o rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino yn helpu pobl ifanc ac oedolion i siarad Cymraeg yn hyderus tu allan i’r dosbarth.  Roedd hi’n bleser cyflwyno’r tlws ef cof am Aled iddo.”

Ychwanegodd Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, “Mae hi mor braf cael cydnabod pwysigrwydd gwirfoddolwyr i’r sector dysgu Cymraeg.  Cwrddais i â fe gyntaf pan o’n i’n blentyn ar gwrs ail iaith yng Ngwersyll Llangrannog pan roddodd docyn iaith i fi am ddweud y gair ‘clogwyn’.

“Pan gyhoeddwyd mai yn Rhondda Cynon Taf y byddai Eisteddfod 2024, gan Gwilym y derbyniais y siec a’r cerdyn cyntaf.  Mae e’n driw i bob achos ac yn enillydd cwbl haeddiannol.”

Llun: Llinos Roberts, gweddw Aled Roberts gyda Gwilym Roberts.