Mi wnaeth golygydd llyfrau benderfynu dysgu Cymraeg ar ôl symud i Gymru, er mwyn sicrhau ei bod yn gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a rhoi rhywbeth yn ôl i Gymru.
Cafodd Jane Burnard ei geni a’i magu yng Nghumbria, a bu’n gweithio yn Llundain am 23 mlynedd. Yn 2013, penderfynodd Jane a’i phartner, Gareth, symud i Gymru.
Mae Jane a Gareth yn byw yng Ngwaen Cae Gurwen, Castell Nedd Port Talbot, ac mae Jane yn dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Abertawe ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae Jane yn defnyddio ei Chymraeg yn y gwaith gyda Gwasg Carreg Gwalch, cwmni cyhoeddi’r bardd, awdur ac Archdderwydd Cymru, Myrddin ap Dafydd.
Yn ystod ei chyfnod yn Llundain, mi wnaeth Jane weithio gyda’r awduron Malorie Blackman ac Alexander McCall Smith a golygu llyfrau i blant rhwng 7-9 oed. Erbyn hyn, mae Jane yn cyfieithu llyfrau o’r Gymraeg i’r Saesneg;
Yn ôl Jane;
‘‘Mae cyfieithu llyfrau yn fy ngalluogi i fod yn greadigol, a dw i’n mwynhau meddwl am ffyrdd o ddenu plant i ddarllen deialog. Mae fy ngeirfa wedi datblygu ers i mi gychwyn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, mae’n ffordd wych o ddysgu’r iaith!’’
Byddai Jane yn annog unrhyw un sy’n dymuno dysgu Cymraeg i roi cynnig arni;
‘‘Ewch amdani a daliwch ati! Peidiwch â phoeni am wneud camgymeriadau, cyfathrebu yw’r peth pwysicaf. Mae dysgu a siarad Cymraeg wedi gwneud i mi deimlo mod i’n perthyn i Gymru, a bydda i bob amser yn ddiolchgar am hynny.’’
Hyd yma, mae Jane wedi cyfieithu nofel i blant gan yr awdur Angharad Tomos i Wasg Carreg Gwalch, sef Darn Bach o Bapur, stori am brotest y teulu Beasley, wnaeth wrthod talu treth cyngor tan iddynt dderbyn ffurflen Gymraeg yn 1952. Mae hefyd wedi cyfieithu stori antur hanesyddol i blant o’r enw Y Pibgorn Hud gan Gareth Evans. Tasg nesaf Jane fydd cyfieithu Paent gan Angharad Tomos, stori am hanes arwisgo Siarl yn Dywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon ym 1969.
Dywed Jane fod gweithio i Myrddin ap Dafydd yn fraint;
‘‘Weithiau, dw i methu credu mod i’n gweithio i Archdderwydd Cymru! Mae wedi bod mor gefnogol ac mae gweithio i ddyn mor ffein yn bleser pur. Mae cyfieithu yn sicr wedi fy ngalluogi i gyrraedd fy nod a dod yn rhugl yn y Gymraeg, a dw i mor ddiolchgar i Myrddin ap Dafydd am roi’r cyfle yma i mi.’’