Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gwobr dysgu Cymraeg i Mohamad o Geredigion

Gwobr dysgu Cymraeg i Mohamad o Geredigion
Sion Meredith, Pennaeth Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys, Sir Gâr a Mohammed Karkoubi

Mohamad Karkoubi a Siôn Meredith, Pennaeth Dysgu Cymraeg Ceredigion-Powys-Sir Gâr
(
Llun: Prifysgol Aberystwyth) 

Mae Mohamad Karkoubi, sy’n byw yn Aberystwyth, wedi ennill gwobr Dysgu Cymraeg mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd fel rhan o wythnos Ffoaduriaid Cymru.

Cyflwynwyd gwobrau ‘Cenedl Noddfa’ Cymru am y tro cyntaf eleni ar y cyd rhwng Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Chlymblaid Ffoaduriaid Cymru. Cyflwynwyd gwobrau i ffoaduriaid a cheiswyr lloches sydd wedi rhagori ym myd y celfyddydau, dysgu iaith, byd busnes, a gwirfoddoli.

Daw Mohamad yn wreiddiol o Syria, a symudodd ef a’i deulu i Aberystwyth yn 2015. Llynedd penderfynodd fynd ati i ddysgu’r Gymraeg. Mae’n gweithio fel gof yn Nhregaron, ac mae wedi bod yn mynychu cwrs Dysgu Cymraeg dwys yn Aberystwyth ddwywaith yr wythnos.

Mae Mohamad wedi ymroi’n llwyr i’r cwrs, a gaiff ei ddarparu gan Dysgu Cymraeg Ceredigion-Powys-Sir Gâr ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Fis Mawrth eleni mynychodd Mohamad a’i deulu benwythnos Cymraeg i’r Teulu yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog a oedd yn cael ei drefnu gan Dysgu Cymraeg Ceredigion-Powys-Sir Gâr, sy’n cael ei weithredu gan Brifysgol Aberystwyth, a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Yn ystod y penwythnos, cafodd Mohamad gyfle i fynychu gwersi Cymraeg ac i gymdeithasu gyda dysgwyr eraill.

Dwi’n falch iawn o gael derbyn y wobr arbennig hon. Dw i’n mwynhau dysgu Cymraeg yn fawr. Mae’r iaith wedi fy helpu i a’m teulu i deimlo’n rhan o’r gymuned yr ydyn ni’n byw ynddi. Dw i’n cael cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg gyda dysgwyr eraill yn y dosbarth, ac yn y gwaith bob dydd. Dw i’n ddiolchgar iawn i’r Tiwtor, Rob Dery, ac i bawb sy’n fy helpu i.

Mohammed Karkoubi

Mae Mohammed wedi taflu ei hun i mewn i fywyd Ceredigion, ac mae’n gwerthfawrogi ei fod yn byw mewn ardal ddwyieithog. Mae’n awyddus iawn i ddysgu iaith ei wlad fabwysiedig, ac mae wedi wynebu’r her yn llawen a brwdfrydig. Pob dymuniad da iddo wrth iddo ddal ati i ddysgu siarad Cymraeg.

Siôn Meredith, Pennaeth Dysgu Cymraeg Ceredigion-Powys-Sir Gâr

Er mwyn dod o hyd i gwrs Cymraeg neu gyfleon i ddefnyddio’r Gymraeg, ewch i dysgucymraeg.cymru. Mae cyrsiau am ddim ar gael ar ein gwefan hefyd.