Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn 40 oed

Gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn 40 oed

Mae dysgwyr Cymraeg o Gymru a thu hwnt yn cael eu hannog i roi tro ar gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni, 40 mlynedd ers i’r wobr gael ei chynnig gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Llangefni 1983.

Mae’r gystadleuaeth wedi’i chynnal 36 o weithiau ers hynny, gyda sawl enw cyfarwydd ymhlith yr enillwyr.

Spencer Harris, sy’n wreiddiol o Goedpoeth ger Wrecsam, enillodd y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau yn 2001.  Mae Spencer erbyn hyn yn Is-Lywydd Clwb Pêl-droed Wrecsam ac yn gweithio fel uwch gyfarwyddwr gyda Kellogg’s yn Ewrop.

Cawson ni gyfle i gael gair gyda Spencer am y profiad o ennill y wobr a’i hanes yn siarad Cymraeg ers hynny.

Pryd wnaethoch chi ddechrau dysgu Cymraeg?

Mi wnes i ddechrau dysgu Cymraeg yn 1995. Es i i dosbarthiadau nos i ddechrau ac wedyn, es i mlaen i wneud Lefel A mewn Cymraeg.

Beth dych chi’n ei gofio am y diwrnod wnaethoch chi ennill Dysgwr y Flwyddyn?

Roedd yn ddiwrnod arbennig. Doeddwn i ddim disgwyl ennill. Roedd seremoni fawr mewn gwesty lleol yn Ninbych ac fe ddaeth fy nhiwtor Cymraeg a fy nheulu hefo fi.

Pa wahaniaeth wnaeth y wobr i chi?

Roedd hi’n anrhydedd enfawr. Dw i wedi cystadlu dros Gymru fel chwaraewr tenis bwrdd rhyngwladol ond roedd ennill Dysgwr y Flwyddyn yr un mor bwysig i.  Roedd yn anhygoel pan ges i’r gwahoddiad i fod yn aelod o Orsedd y Beirdd.

Beth yw eich hanes yn siarad Cymraeg ers hynny?

Dw i’n defnyddio’r iaith yn aml. Dan ni’n wedi magu tri o blant i siarad yr iaith ac mae’r tri wedi cael addysg cyfrwng Cymraeg.

Fel Cyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Wrecsam, dw i wedi gwneud nifer o gyfweliadau teledu a radio yn Gymraeg dros yr 20 mlynedd diwethaf.

A phan wnaethom ni werthu Clwb Pêl-droed Wrecsam ar ran y cefnogwyr i Ryan Reynolds a Rob McElhenney, gwnes i’n siŵr eu bod yn deall pwysigrwydd yr iaith i’r clwb, ac i ni fel gwlad.  

Maen nhw erbyn hyn wedi denu llawer o sylw i Gymru a’r Gymraeg.

Beth yw eich cyngor i bobl sydd wrthi’n dysgu Cymraeg?

Does dim byd yn hawdd yn y byd, ond os ydych chi’n dal ati, mi fyddwch chi’n llwyddiannus.

Beth, yn eich barn chi, yw’r elfen bwysicaf wrth wobrwyo dysgwr y flwyddyn?

Mae safon y Gymraeg yn bwysig ond rhaid hefyd ystyried pwy sy’n debyg o ysbrydoli eraill i ddysgu Cymraeg.

Geirfa

Is-Lywydd – Vice President

Cyfarwyddwr - Director

Anrhydedd – privilege

Denu - attract

Mae’r gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn agored i ddysgwyr dros 18 oed sy’n hyderus yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd. Gall unigolion enwebu eu hunain, neu gall perthynas, ffrind, cydweithiwr neu diwtor enwebu rhywun.

Bydd y rownd gyn-derfynol yn cael ei chynnal yn rhithiol ar 11 a 12 Mai, gyda’r rownd derfynol yn cael ei chynnal ar faes yr Eisteddfod, ddydd Mercher, 9 Awst gyda’r beirniaid: y cyflwynydd radio, Tudur Owen; Liz Saville Roberts AS; a Geraint Wilson-Price, rheolwr Dysgu Cymraeg Gwent. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar yr un diwrnod mewn seremoni arbennig.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan yr Eisteddfod a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae’r ffurflen gais ar wefan yr Eisteddfod a’r dyddiad cau yw 1 Mai.