Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gwobr i Helen

Gwobr i Helen

Gwobrau Arwain Cymru yn cydnabod arweinyddiaeth ysbrydoledig Helen yn y sector Dysgu Cymraeg

Mae Helen Prosser, Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, wedi ennill un o brif wobrau Gwobrau Arwain Cymru 2018, mewn cydweithrediad â'r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

Enillodd Helen y categori ‘Menywod mewn Arweinyddiaeth’, a gefnogwyd gan Gonsortiwm Gwobrau Arwain Cymru, sy’n cynnwys ACCA Cymru Wales, CBI Cymru, FSB Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).

Yn wreiddiol o Donyrefail, mae Helen wedi gweithio fel tiwtor Cymraeg i oedolion ers iddi raddio o Brifysgol Aberystwyth yn 1983.  Helen oedd pennaeth Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg cyn iddi ymuno â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn 2016.

Yn ei rôl gyda’r Ganolfan, mae Helen yn gyfrifol am bob agwedd ar yr addysgu a’r dysgu, gan gynnwys llunio cwricwlwm cenedlaethol ac adnoddau newydd a chysoni safonau ar draws y sector.

Meddai Helen Prosser:  “Credu mewn gwneud gwahaniaeth i sefyllfa’r iaith Gymraeg a thrwy hynny gyfoethogi bywydau unigolion ar yr un pryd sydd yn fy nghymell fel arweinydd. 

“Fel tiwtor, dysgais yn gynnar iawn bod parchu pob unigolyn mewn dosbarth, gan ofalu am eu hanghenion nhw a defnyddio eu cryfderau yn holl-bwysig.  Mae’r rhain yn ddwy egwyddor yr anelaf at eu rhoi ar waith wrth reoli staff.   

“Rhaid i ni arwain er mwyn creu newidiadau er gwell a rhoi hyder i’n pobl ifainc.  Rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn gallu gwneud gwahaniaeth.”

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Rwy’n gwybod bydd cydweithwyr ar draws y sector Dysgu Cymraeg yn ymuno â ni i estyn llongyfarchiadau gwresog i Helen am ennill y wobr hon.  Mae angerdd ac ymrwymiad Helen i rannu’r Gymraeg ac i groesawu siaradwyr newydd yn ysbrydoliaeth i bawb sy’n ei hadnabod.”

Meddai Barbara Chidgey, Cadeirydd Gweithredol Gwobrau Arwain Cymru: "Eleni, roedd y pwyslais ar enwebu unigolion o bob cwr o Gymru sy’n dangos arweinyddiaeth sy’n ysbrydoli ac sy’n trawsnewid.  Unigolion y mae eu harweinyddiaeth yn cyfrannu at gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. "Ar ran y Consortiwm rydym yn diolch i bawb a enwebwyd ac yn estyn llongyfarchiadau mawr i'r holl enillwyr haeddiannol.”

Diwedd 

Mae Gwobrau Arwain Cymru, mewn cydweithrediad â'r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth, yn adnabod ac yn dathlu unigolion yng Nghymru ym mhob sector ac ar bob lefel o gyfrifoldeb y mae eu harweinyddiaeth yn gwneud gwir wahaniaeth. Dyma eu 14eg flwyddyn ac fe'u hyrwyddir gan Gonsortiwm sy'n cynnwys CBI Cymru, FSB Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).