Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gwobrau Dysgu Cymraeg Gwent

Gwobrau Dysgu Cymraeg Gwent

Dysgwyr yn dathlu llwyddiant yn seremoni Dysgu Cymraeg Gwent

Mae dysgwyr y Gymraeg o ardal Gwent wedi’u cydnabod am eu hymrwymiad i’r iaith mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd ar Gampws Pont-y-pŵl, Coleg Gwent. 

Cyflwynwyd y gwobrau gan y cyflwynydd teledu Nia Parry a’r wraig wadd Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.

Mae Dysgu Cymraeg Gwent yn rhan o Goleg Gwent sy’n darparu ystod o gyrsiau Cymraeg yng Ngwent ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.  Eleni, disgwylir i fwy na 2,500 o oedolion yng Ngwent gofrestru ar gyrsiau Cymraeg. 

Dywedodd Eluned Morgan AC:  “Dyma un o’m digwyddiadau cyntaf yn rhinwedd fy swydd fel Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, ac nid wyf yn gallu dychmygu seremoni fwy addas nag un sy’n dathlu’r ddwy agwedd o’m portffolio.  Dw i’n llongyfarch pawb am eu llwyddiant ac yn eu canmol am eu hymrwymiad i ddysgu’r Gymraeg.

“Mae ymrwymiad gennym i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i un filiwn erbyn 2050 ac mae’n bleser gweld cynifer o bobl yn ymuno â ni yn ein her.”

I ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ddysgu Cymraeg, ewch i dysgucymraeg.cymru  Darperir dosbarthiadau ar bob lefel i ateb anghenion dysgwyr drwy Gwent.

Diwedd   -

 Enillwyr:

Dysgwr y Flwyddyn – Zoe Selway

Dysgwr y Flwyddyn, Cymraeg yn y Gweithle – Grace Capper

Tiwtor y Flwyddyn, Cymraeg yn y Gweithle – Anne Shore

Dosbarth y Flwyddyn, Cymraeg yn y Gweithle – Dysgwyr Dechrau’n Deg Casnewydd, Betws,

Tiwtor y Flwyddyn, Cymraeg i’r Teulu – Alison Withey

Dosbarth y Flwyddyn, Cymraeg i’r Teulu Y Fenni

Hwylusydd y Flwyddyn, Cefnogi Dysgwyr – Gareth Williams

Grŵp y Flwyddyn, Cefnogi Dysgwyr – Llyfrgell Casnewydd

Tiwtor y Flwyddyn, Skype – Richard Morse

Dysgwr y Flwyddyn, Skype – Ceri Goring

Gwobr Arbennig i Ddysgwr – Lynnie Llewellyn

Disgrifiad llun

O’r chwith i’r dde, Dr Emyr Davies CBAC, Zoe Selway, Dysgwr y Flwyddyn Dysgu Cymraeg Gwent, Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a Geraint Wilson-Price, Pennaeth Dysgu Cymraeg Gwent.