Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cystadleuaeth i ddysgwyr

Cystadleuaeth i ddysgwyr
Hysbys Gwyl AmGen

Croesawu dysgwyr o Gymru a’r byd i gystadlu
am wobr Dysgwr yr
Ŵyl AmGen

Mae cyfle i ddysgwyr o bob cwr o’r byd sy’n gwneud ymdrech arbennig i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd pob dydd i gystadlu am wobr ‘Dysgwr yr Ŵyl AmGen’, sy’n cael ei lansio heddiw (dydd Llun, 15 Mehefin).

Mae’r wobr yn rhan o’r Ŵyl Amgen, sy’n benwythnos hir o raglenni a chynnwys ar draws BBC Radio Cymru, BBC Radio Cymru 2 a BBC Cymru Fyw.

Mae croeso i ddysgwyr sy dros 18 oed roi cynnig ar y gystadleuaeth, sy’n cael ei chynnal gan yr Eisteddfod Genedlaethol ar y cyd â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a BBC Radio Cymru.  Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar BBC Radio Cymru yn ystod yr Ŵyl AmGen, sy’n cael ei chynnal rhwng 30 Gorffennaf - 2 Awst.

Noder bod y broses enwebu wedi dod i ben.  Bydd rhestr fer yn cael ei llunio, gyda’r rheiny ar y rhestr fer yn rhan o ddathliad arbennig ar BBC Radio Cymru ar ddydd Sadwrn, 1 Awst fel rhan o’r Ŵyl AmGen.

Cyhoeddir yr enillydd bnawn dydd Sadwrn, 1 Awst. 

Meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol: “Ry’n ni wedi gorfod edrych o’r newydd ar nifer o wahanol bethau eleni, wrth i’r Eisteddfod gael ei gohirio, gan gynnwys dathlu llwyddiannau’r rheiny sy’n dysgu Cymraeg.

“Ry’n ni eisoes wedi bod yn cydweithio gyda’r Ganolfan Genedlaethol er mwyn cynnal gweithgareddau i ddysgwyr gan ddysgwyr fel rhan o’n cynllun AmGen, sy ar y gweill ers rhai wythnosau bellach, ac mae’r gystadleuaeth hon yn binacl ar y cyfan.  Mae’n gyfle i ni longyfarch dysgwyr sy’n gwneud ymdrech arbennig i ddefnyddio’r Gymraeg -  gyda’u teuluoedd, yn y gwaith neu’r gymuned ehangach.”

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Mae’r gymuned Dysgu Cymraeg wedi tyfu dros y misoedd diwethaf gyda miloedd mwy o bobl yn dysgu’r iaith yn ddigidol, yng Nghymru a thu hwnt.  Edrychwn ymlaen yn fawr at y gystadleuaeth yma, sy’n gyfle pellach i groesawu a dathlu siaradwyr newydd y Gymraeg.”

Meddai Ynyr Williams, Golygydd Cynnwys BBC Radio Cymru: “Mae’n wych bod yn rhan o’r gwobrwyo yma eleni.  Mae’n destun balchder i ni fod cymaint o bobl sy’n dysgu Cymraeg yn gwrando ac yn cyfrannu i Radio Cymru.  Mae’n podlediad ‘Pigion y Dysgwyr’ gyda’r mwyaf poblogaidd o’n podlediadau ar Radio Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen unwaith eto yn hwyrach eleni i gynnal Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg.  Mi ydym fel gorsaf wastad yn edrych ymlaen i gwrdd ac i glywed gan yr unigolion ymroddedig yma ar ein gwasanaeth.”

Yn wahanol i’r arfer, ni fydd rownd gyn-derfynol i’r gystadleuaeth eleni.  Yn hytrach, bydd panel yn y Ganolfan Genedlaethol yn llunio rhestr fer hir.  Bydd panel beirniaid, sy’n cynnwys Aran Jones, cyd-sylfaenydd SaySomethingInWelsh, yn cytuno ar restr fer ac enillydd. 

 

Diwedd

15.6.20