Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gŵyl ‘Ar Lafar’ yn annog dysgwyr y Gymraeg i fwynhau trysorau Cymru

Gŵyl ‘Ar Lafar’ yn annog dysgwyr y Gymraeg i fwynhau trysorau Cymru
Gwyl Ar Lafar

Bydd cyfle i ddysgwyr y Gymraeg fwynhau siarad yr iaith mewn gŵyl genedlaethol, diolch i bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Cynhelir yr ŵyl undydd o’r enw ‘Ar Lafar’ ar 6 Ebrill ar dri o safleoedd yr Amgueddfa - Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol , Dre-fach Felindre, ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis - ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Bwriad yr ŵyl rad-ac-am-ddim yw rhoi cyfle i ddysgwyr a’u teuluoedd gymdeithasu a defnyddio’u Cymraeg mewn awyrgylch hwyliog a chroesawgar, gan fwynhau’r trysorau cenedlaethol sydd i’w gweld gan yr Amgueddfa a’r Llyfrgell Genedlaethol.

Bydd gwahanol weithgareddau ar gael ymhob safle a fydd yn addas i ddysgwyr o bob lefel.  Bydd y gweithgareddau yn amrywio o deithiau tu ôl i’r llenni i arddangosfeydd hollti a naddu, perfformiadau theatrig, gweithdai crefft, cyflwyniadau ffilm, sesiynau cerddorol a hyd yn oed sesiwn glocsio.  Bydd digon o gyfleon i fwynhau paned, i sgwrsio ac i gymdeithasu gyda dysgwyr a theuluoedd eraill.  Mae’r gweithgareddau hyn i gyd yn rhad ac am ddim.

Mae mwy o wybodaeth yma am y gweithgareddau sydd wedi eu trefnu ar y dydd. 

Rydym yn falch iawn o fedru parhau â’r bartneriaeth gyda’r Amgueddfa a’r Llyfrgell.  Mae’n braf hefyd medru croesawu’r Amgueddfa Wlân, Dre-fach Felindre i fod yn rhan o’r ŵyl eleni am y tro cyntaf. Mae’n bwysig tu hwnt wrth ddysgu’r Gymraeg i roi cyfleoedd i bobl ymarfer siarad yr iaith mewn awyrgylch anffurfiol y tu allan i’r dosbarth.  Rydym hefyd yn gwybod bod nifer fawr o bobl yn chwilio am gyfleon i siarad y Gymraeg ac i dyfu mewn hyder wrth ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd.

Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Rydym ni’n falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’r Llyfrgell Genedlaethol fel rhan o’r ŵyl genedlaethol hon eto eleni. Mae Amgueddfa Cymru yn llwyfan i dreftadaeth ein gwlad ac yn gefnlen gwych i bobl o bob oed ddysgu’r Gymraeg a thrwy hynny ddysgu am ddiwylliant Cymru.  Mae croeso cynnes i ddysgwyr ddod i ymweld â phob un o’n hamgueddfeydd.

Nia Williams, Cyfarwyddwr Addysg ac Ymgysylltu Amgueddfa Cymru,

Mae’n bleser cael croesawu gŵyl Ar Lafar yn ôl i’r Llyfrgell Genedlaethol eleni eto.  Rydym yn hynod falch o allu cynnig profiadau newydd a diddorol i fynychwyr yr ŵyl, boed yn ddysgwyr neu'n siaradwyr rhugl.  Mae’r Llyfrgell yn lle delfrydol i ddysgu mwy am hanes a datblygiad yr iaith, ac fel sefydliad rydym bob amser yn  annog a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg.  Mawr obeithiwn y bydd yr ŵyl yn rhoi’r hyder a’r ysgogiad i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus mewn mannau cyhoeddus.

Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru