Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Harri - un o sêr ymgyrch recriwtio'r haf

Harri - un o sêr ymgyrch recriwtio'r haf

Mae Harri Owain, sy’n gweithio fel daearegwr, yn un o sêr ymgyrch recriwtio ddiweddara’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.  Gwyliwch hysbyseb Harri yma.

 O ble wyt ti’n dod yn wreiddiol a beth yw dy gefndir di?

Fi’n dod o bentre bach o’r enw Aberthin ym Mro Morgannwg.  Es i i ysgol Saesneg. Mwynheais y dosbarthiadau Cymraeg ond ro’n i’n stryglo i gofio fy Nghymraeg ar ôl gorffen ysgol.  Mae fy nhad i’n gallu siarad Cymraeg, ond doedden ni ddim yn siarad yr iaith adref.

Pam oeddet ti eisiau dysgu Cymraeg?

Mae llawer o fy ffrindiau yn ei siarad, felly fe ges i sawl un ohonyn nhw yn newid i Saesneg pan o’n i’n ymuno yn y sgwrs.

Sut/ble wnest ti ddysgu?
Fi’n defnyddio’r app ‘Say Something in Welsh’ a rwy’n ymwneud â grwp @WelshSocial yng Nghaerdydd.

Pryd a ble wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg?

Gyda fy ffrindiau a fi wedi dechrau siarad gyda fy nhad yn Gymraeg sydd yn wych!

Beth yw dy hoff beth a dy gas beth?
Gallu newid i Gymraeg pan fydd pobl Saesneg yn cerdded i mewn i'r dafarn (jôc!).  Nid oes unrhyw beth negyddol, rwy'n falch iawn o siarad iaith fy ngwlad.

Pwy sydd wedi ysbrydoli ti yn dy fywyd?

Fy ffrind Rhidian.

Beth wyt ti’n mwynhau gwneud yn dy amser hamdden?
Fi’n hoffi rhedeg, seiclo a gwrando ar fiwsig - miwsig Cymraeg yn enwedig.

Beth yw dy hoff lyfr Cymraeg?
Dw i heb ddarllen llyfr yn Gymraeg.  Mae gen i lyfr Harri Potter yn Gymraeg ond dw i ddim wedi darllen tu hwnt i'r dudalen gyntaf.

Beth yw dy hoff air Cymraeg?
Lembo, sy'n golygu "idiot" yn y Gogledd.  Clywais hyn yng Nghaernarfon.

Oes gen ti unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?

Daliwch ati, eich camgymeriadau yn werthfawr.  A chael hwyl

Disgrifia dy hun mewn tri gair
Drwg gyda threigladau.