Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

“Dinesydd y byd” sy’n dysgu Cymraeg

“Dinesydd y byd” sy’n dysgu Cymraeg
Llun Hilton

Hanes Hilton

Fel un o'r nifer cynyddol o ddysgwyr Cymraeg sy'n dilyn cyrsiau mewn dosbarthiadau rhithiol a gefnogir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, mae stori Hilton Marlton yn fwy dramatig na'r mwyafrif.

Ym 1986, yn 22 oed, fe ffodd Dde Affrica cyn iddo gael ei gonsgriptio i fyddin y wlad, mewn protest yn erbyn y gyfundrefn apartheid sydd bellach wedi dod i ben.  Aeth ar lwybr a arweiniodd yn y pen draw at ymgartrefu yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin a rhedeg ei fusnes adfer a dylunio adeiladau.

“Yn y dyddiau hynny yn Ne Affrica, cafodd pob dyn gwyn ifanc ei gonsgriptio i’r fyddin. Ond roedd troseddau fy ngwlad yn erbyn dynoliaeth yn wrthun i mi, a gwnes i’r penderfyniad i neidio’r drafft,” meddai Hilton, sy’n wreiddiol o Natal.

“Ro’n i i fod i gael fy anfon ar gwrs hyfforddi ar gyfer swyddogion ond, yn lle hynny, es i ar awyren i’r DU a cheisio lloches wleidyddol yma.  Pe bawn i wedi aros yn Ne Affrica, byddwn i wedi wynebu chwe blynedd yn y carchar.”

Bellach, 34 o flynyddoedd yn ddiweddarach, ar ôl sawl arhosiad yn Ewrop a chyfnod fel canwr opera proffesiynol, mae Hilton yn byw yn Llanfynydd ger Llandeilo lle, yn ogystal â’i fusnes dylunio, mae'n cadw 14 o wartheg prin Dinefwr Parc Wen.

“Yr gwartheg hyn yw’r brîd hynaf yn Ynysoedd Prydain ac mae cyfeiriad atynt yng nghyfreithiau Hywel Dda,” meddai Hilton, 57, sydd â gwybodaeth helaeth am hanes, diwylliant a lleoedd Cymru. 

“Dw i’n dod o gefndir ffermio yn Ne Affrica a dw i wedi breuddwydio am gael fy fferm fy hun,” ychwanega. “Felly nawr mae gen i 100 erw o dir fy hun i weithio arno.” 

Mae Hilton, sy’n disgrifio’i hun fel “dinesydd y byd”, wedi byw yng Nghanolbarth Cymru o’r blaen ac wedi teithio’n helaeth o amgylch y wlad.

Mae e wedi setlo yn y gorllewin yn rhannol o ganlyniad i'r ffaith bod ganddo gysylltiadau teuluol yn Sir Benfro ac Abertawe, er bod y rhan fwyaf o'i deulu yn dal i fyw yn Ne Affrica.

Penderfynodd ddechrau dysgu Cymraeg fel arwydd o barch at ei wlad fabwysiedig. “Dw i'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ymroi i'r diwylliant dych chi'n byw ynddo,” esboniodd.  

Ar hyn o bryd mae Hilton deufis i mewn i gwrs lefel Sylfaen sy'n cael ei gynnal gan Dysgu Cymraeg Sir Gâr (Cyngor Sir Gaerfyrddin) ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Yn yr un modd ag eraill sy'n dilyn y cyrsiau rhithiol, mae'n gweld y profiad yn un gwerth chweil.

“Mae gyda ni athro gwych o’r enw Nigel Rees,” meddai. “Yr hyn sydd hefyd yn ddiddorol yw’r ffaith fod fy nghyd-ddysgwyr yn dod o wahanol leoedd, nid yn unig o Gymru. Er enghraifft, mae yna bobl o Gernyw a Birmingham ar y cwrs. ”

Os nad yw stori Hilton yn ddigon diddorol, mae e hefyd wedi’i hyfforddi yn ganwr opera proffesiynol. “Ro’n i’n 28 oed pan ddes i’n breswylydd parhaol yn y DU ac yna enillais i fwrsariaethau i astudio yn y Guildhall School of Music and Drama,” eglura.

Fel tenor telynegol, fe ddechreuodd ei yrfa gyda’r Corws Glyndebourne byd-enwog, a chanodd rai o’r prif rannau. Gweithiodd hefyd i Opera’r Almaen ym Merlin, Opera’r Alban, Channel 4 a Theatre Malmö yn Sweden, ymhlith eraill. “Roedd yn brofiad gwych,” mae’n cofio.

Dri deg mlynedd yn ddiweddarach, mae Hilton yn mwynhau ei fywyd yng nghanol cefn gwlad gorllewin Cymru ac yn chwarae ei ran wrth roi llais i'r Gymraeg.

Diwedd