Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Allison LaPointe

Holi Allison LaPointe

Yma, ’dyn ni’n siarad gyda Allison LaPointe, sy’n byw yn America.  Mae Allison yn canu gyda Chôr Cymry Gogledd America, sy’n dod i Gymru ym mis Gorffennaf.  Yma, mae’n sôn am ei rhesymau dros ddysgu Cymraeg ac am y côr…

O ble dych chi’n dod?

Ces i fy magu yng ngogledd ddwyrain America, ond nawr dw i’n byw yn Saint Paul, Minnesota, yn y gorllewin.

Beth ydy eich cysylltiad gyda Chymru?

Mi wnaeth fy hen daid symud i Utica, Efrog Newydd o’i gartref yn Nyffryn Ardudwy, gogledd Cymru.  Mae fy rhieni’n gerddorol, ond doedden nhw ddim yn canu - er bod fy Mam yn dweud bod fy llais canu i’n dod o’i hochr Gymreig hi o’r teulu!  Dyma fy nhaith gyntaf i Gymru, felly mi fydd yn dipyn o brofiad.

Beth dych chi’n ei wneud o ddydd i ddydd?

Dw i’n epidemolegydd gyda Adran Iechyd Minnesota, ac ar hyn o bryd dw i’n gweithio ym maes clefydau heintus.

Pryd wnaethoch chi ddechrau dysgu Cymraeg?

Gwnes i ddechrau dysgu Cymraeg gyda Duolingo ym Mawrth 2020, cyn ymuno gyda dosbarth Dysgu Cymraeg wythnosol ar Zoom.  Mi wnaethon ni ddechrau gyda llyfr Mynediad, a nawr ’dyn ni ar lefel Sylfaen.  Mae wedi bod yn wych siarad gyda dysgwyr eraill, a chlywed pobl yn siarad Cymraeg ar Zoom.

Beth dych chi’n ei fwynhau fwya am ddysgu Cymraeg?

Dw i wedi dysgu llawer am hanes a diwylliant Cymru, trwy’r llyfrau a thrwy ganu caneuon gyda’r côr, a thrwy ddilyn y cwrs a darllen llenyddiaeth.  Dw i hefyd yn hoffi dysgu idiomau Cymraeg.

Sut dych chi’n teimlo am y daith i Gymru?

Dw i’n gyffrous bod y daith yn dechrau yng ngogledd Cymru, achos mae fy nheulu i’n hanu oddi yno.  Dw i’n edrych ymlaen at gyfarfod llawer o’r cyfansoddwyr, beirdd, awduron ac aelodau o’r gymuned ’dyn ni wedi eu cyfarfod ar Zoom ers 2020.

Am fwy o wybodaeth am y daith, ewch i wefan y côr yma.