Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Ana o Batagonia

Holi Ana o Batagonia

Dewch i ddysgu mwy am Ana Chiabrando Rees:

O ble dych chi’n dod a beth yw eich cefndir chi? 
Dw i'n dod o La Plata yn wreiddiol, ond mae fy mam a'i theulu i gyd o dras Cymreig.

Pryd a ble dych chi’n defnyddio eich Cymraeg?
Dw i'n siarad Cymraeg yn y gwersi ar Cymraeg, pan dw i'n gweithio yn Ysgol yr Hendre, Trelew, gyda ffrindiau a gydag ymwelwyr o Gymru pan maen nhw'n dod i'r tŷ te a´r gwesty dw i'n eu rhedeg.

Beth yw eich hoff beth a’ch cas beth?
Fy hoff beth yw cathod. Fy nghas beth yw corynnod.

Pa fath o fwydydd dych chi’n hoffi eu coginio?
Pethau melys yn bennaf, ond dw i'n hoffi coginio pitsa a bwyd Indiaidd hefyd ar ôl eu blasu yng Nghymru

Beth fyddai eich pryd delfrydol?
Yn y gaeaf, cyri cyw iâr fyddai'n ddelfrydol ac yn yr haf, pitsa gyda llawer o bethau gwahanol arno

Oes gyda chi unrhyw draddodiadau Nadolig arbennig yn ymwneud â bwyd?
Gan ei bod hi mor boeth yma fel arfer, dyn ni'n arfer gwneud asado, rhyw fath o farbeciw, ond dw i ddim yn bwyta cig eidion na chig oen, felly, dw i'n bwyta bwyd oer, sy'n cael ei wneud gyda llawer o lysiau fel arfer. Ac i bwdin, hufen iâ bob tro, a dewis o deisennau a phethau melys i orffen. 

Beth yw eich hoff lyfr Cymraeg? 
Ww! Mae cymaint o lyfrau Cymraeg dw i'n eu caru, dw i ddim yn gallu dewis, ond mae gen i hoff awduron: Mihangel Morgan, Manon Steffan Ros a Bethan Gwanas, ond dw i'n darllen pob nofel sy'n cyrraedd fy nwylo, ac yn mwynhau pob un ohonynt yn fawr. Beth yw eich hoff air Cymraeg?
Hiraeth

Oes gyda chi unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?
Darllenwch! Dyna'r ffordd orau i ehangu geirfa a dysgu am wahanol ffyrdd o ddweud y pethau’n Gymraeg, heb sôn am y tafodieithoedd!

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair 
Brwdfrydig, gweithgar a chyfeillgar