Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Andrew

Holi Andrew

Mae Andrew Ross Edwards ymhlith tua 50 o bobl ledled Cymru sy newydd ddechrau gweithio’n llawn amser neu ran amser fel tiwtor Dysgu Cymraeg.  Mae Andrew yn siaradwr Cymraeg newydd ei hun.

Fel rhan o’r broses hyfforddi, bu Andrew ar gwrs i diwtoriaid newydd ym Mhlas Tan-y-bwlch ger Porthmadog yn ddiweddar.

Dyma ychydig o’i hanes.

O ble rwyt ti'n dod a ble rwyt ti'n byw nawr? 

Dw i'n dod o Holland, Michigan yn yr UDA yn wreiddiol ac yn byw ym Mangor ers rhyw chwe mlynedd bellach.

Rwyt ti’n siaradwr Cymraeg newydd dy hun - pryd wnest ti ddechrau dysgu Cymraeg? 

Mi wnes i ddechrau dysgu saith mlynedd yn ôl pan oeddwn i ar fy ngwyliau yng Nghymru – y tro cyntaf i mi ymweld â’r wlad.  Gwnes i yr ysgol haf adeg hynny, a wedyn cwrs blwyddyn lawn amser gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin.

Ar ôl y flwyddyn honno, gwnes i astudio am dair blynedd am radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

Pa wahaniaeth mae dysgu Cymraeg wedi ei wneud i ti? 

Mae dysgu Cymraeg wedi agor y drws i gymuned glòs, groesawgar a chefnogol iawn.

Trwy ddysgu Cymraeg, dw i wedi gwneud ffrindiau annwyl dros ben, a dw i'n teimlo mod i’n perthyn i'r gymuned fendigedig honno.

Yn ogystal â mynediad at lenyddiaeth hynod gyfoethog, mae dysgu Cymraeg wedi newid fy mywyd, yn benodol fy awydd i ddysgu ieithoedd yn gyffredinol, a dysgu am hanes a diwylliant gwledydd eraill.

I rywun fel fi sy'n dod o genedl fawr fel UDA, mae dysgu Cymraeg wedi fy ngalluogi i fod yn ymwybodol a chydymdeimlo â brwydr gwledydd bychain Ewropeaidd dros eu hawliau gwleidyddol sylfaenol.

Beth wnaeth dy ddenu i fod yn diwtor? 

Un rheswm oedd fy mod i wrth fy modd efo'r profiad o fod yn ddysgwr (gyda thiwtoriaid heb eu hail!) ac ro’n i isio mynd yn ôl i'r awyrgylch dosbarth hyfryd hwnnw.

Ro’n i hefyd eisiau pasio rhai tips wnaeth helpu fi i ddysgu.

Roedd y tiwtoriaid ges i yn Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin hefyd wedi fy ysbrydoli i fod yn diwtor, gan fy mod i wir yn eu hedmygu - ac yn eu cyfri yn ffrindiau.

Sut oedd y penwythnos gyda’r tiwtoriaid newydd eraill ym Mhlas Tan-y-bwlch? 

Ardderchog.  Dw i wedi bod yn cynnal dosbarthiadau ar-lein ers blwyddyn, ond roedd hi'n fuddiol iawn cael syniadau ar gyfer y cwrs newydd wyneb-yn-wyneb. 

Sut mae’r dysgu’n mynd? 

Mi wnes i ddysgu fy ngwers gyntaf wyneb-yn-wyneb i bobl ifanc 18-25 mlwydd oed ym mis Hydref.  Er fy mod braidd yn nerfus ar ddechrau’r wers, aeth hi’n o lew ac roedd ymateb brwd gan y dysgwyr.