Holi Anna MacKenzie
Anna MacKenzie sy dan sylw yma. Mae Anna yn gweithio fel Meddyg Iau yn Ysbyty Gwynedd ac fe ddaeth hi’n drydydd yng ngwobrau Dysgwr y Flwyddyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
O ble dach chi’n dod a beth yw eich cefndir?
Dw i'n dod o Fanceinion a symudais i i Gymru ym mis Awst 2019. Dechreuais i ddysgu Cymraeg ar ddechrau’r pandemig ddwy flynedd yn ôl.
Pam oeddech chi eisiau dysgu Cymraeg?
Dw i'n dysgu Cymraeg oherwydd pan mae pobl yn sâl ac yn yr ysbyty, mae’r gallu i gyfathrebu yn bwysicach nag erioed. Dw i hefyd yn credu bod y bobl leol yn haeddu cael eu trin yn eu hiaith gyntaf.
Sut/ble wnaethoch chi ddysgu?
Dw i wedi bod yn dysgu gan ddefnyddio apiau ar fy ffôn, er enghraifft 'SaySomethinginWelsh' a 'Duolingo'. Yn ystod y pandemig, mynychais i gwrs ar-lein efo Dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn. Ac wrth gwrs, dw i'n siarad Cymraeg bob dydd yn yr ysbyty efo staff a chleifion.
Pryd a ble dach chi’n defnyddio eich Cymraeg?
Dw i'n defnyddio fy Nghymraeg efo pawb sy'n medru siarad! Yn y gwaith yn amlwg, ond hefyd efo fy ffrindiau sy’n siarad Cymraeg.
Beth yw eich hoff air Cymraeg?
Fy hoff air Cymraeg ar hyn o bryd ydy 'machlud' oherwydd ei fod mor hardd adeg yma o'r flwyddyn.
Beth yw eich hoff lyfr/rhaglen deledu Cymraeg?
Fy hoff lyfrau Cymraeg ydy’r rhai sy’n rhan o gyfres 'Amdani' – sef llyfrau wedi’u hanelu at ddysgwyr ar bob lefel dysgu. Un o fy hoff raglenni Cymraeg ydy’r gyfres ddrama 'Un Bore Mercher' efo Eve Myles – mae hi’n un o fy hoff actoresau ac mae hi wedi dysgu Cymraeg hefyd!
Oes gyda chi unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?
Mi faswn i’n cynghori pobl sy isio dysgu i wneud 10-15 munud o ymarfer bob dydd ar eich pen eich hun, a hefyd ymarfer efo pobl sy’n siarad Cymraeg pryd bynnag y gallwch, jyst ewch amdani!
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair!
Tri gair i ddisgrifio fy hun? Ymroddedig, Brwdfrydig a Chymraeg (wrth gwrs!).