Holi Anna Ng, enillydd Medal Bobi Jones Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022
Enillodd Anna Ng o Gaerdydd Fedal Bobi Jones yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych. Dyma sgwrs gyda Anna...
Llongyfarchiadau ar ennill Medal Bobi Jones i ddysgwyr. Sut deimlad oedd camu ar y llwyfan i dderbyn dy wobr?
Roedd yn brofiad anhygoel ennill y wobr. O’n i erioed wedi bod yn Eisteddfod yr Urdd o’r blaen ac roedd y cyfan yn brofiad newydd i mi. Nes i fwynhau yn fawr.
Wyt ti’n cael cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg tu allan i’r ysgol?
Ydw. Dw i’n aelod o gerddorfa’r sir, ac mae gen i ffrindiau o Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yno. Dw i’n siarad Cymraeg ‘da nhw, a gyda fy mam, sy hefyd wedi dysgu Cymraeg.
Beth sy wedi dy helpu fwyaf i ddysgu Cymraeg?
Roedd cychwyn Lefel A Cymraeg yn dipyn o sioc ar ôl TGAU, ac roedd dipyn anoddach. Un peth wnaeth fy helpu i llawer iawn oedd darllen llyfrau Cymraeg.
Roedd fy ffrindiau o Ysgol Glantaf wedi argymell llyfrau Cymraeg i mi, ac mae hynny wedi fy helpu i ddod i arfer gydag acenion gwahanol yng Nghymru. Un o fy hoff lyfrau oedd Craciau gan Bet Jones.
Dros yr haf, dw i’n gobeithio darllen Un Nos Ola Leuad.
Pwy yw dy hoff fand Cymraeg?
Does gen i ddim hoff fand, ond fy hoff gantores ydy Gwenno. Dw i’n mwynhau ei cherddoriaeth hi’n fawr.
Beth yw dy hoff raglen deledu Gymraeg?
Nes i fwynhau cyfres gomedi Jam ar Hansh ac ar y funud, dw i’n gwylio drama Enid a Lucy, sy’n wych!
Os dw i eisiau rhywbeth rhwydd i’w gwylio, dw i’n gwylio Ffit Cymru.
Oes gen ti hoff gyfrif Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol?
Dw i’n dilyn Hansh ar TikTok ac Instagram achos maen nhw’n trafod pethau sydd o ddiddordeb ac yn berthnasol i bobl ifanc trwy gyfrwng y Gymraeg.
Beth yw’r peth gorau am siarad Cymraeg?
Dw i’n caru’r ffordd mae’n swnio a hefyd yr hanes. A dw i jysd yn meddwl fod yr iaith yn ddiddorol – o ran sut mae’r geiriau wedi eu rhoi at ei gilydd a sut mae’r gramadeg mor wahanol i ieithoedd eraill.
Beth sy nesa i ti ar dy daith iaith?
Dw i eisiau parhau i ddysgu Cymraeg, a dw i am gario mlaen i wylio rhaglenni Cymraeg ar S4C.
Dw i hefyd yn gobeithio cychwyn ym Mhrifysgol Caergrawnt yn mis Medi, os caf i’r graddau, a hoffwn ymuno gyda’r Gymdeithas Gymraeg Mabinogion yno. Maen nhw’n cynnig gwersi Cymraeg ac mae llawer o bobl yn dysgu Cymraeg yno.