Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Anna Ng, enillydd Medal Bobi Jones Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022

Holi Anna Ng, enillydd Medal Bobi Jones Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022

Enillodd Anna Ng o Gaerdydd Fedal Bobi Jones yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych.  Dyma sgwrs gyda Anna...

Llongyfarchiadau ar ennill Medal Bobi Jones i ddysgwyr. Sut deimlad oedd camu ar y llwyfan i dderbyn dy wobr?

Roedd yn brofiad anhygoel ennill y wobr. O’n i erioed wedi bod yn Eisteddfod yr Urdd o’r blaen ac roedd y cyfan yn brofiad newydd i mi. Nes i fwynhau yn fawr.

Wyt ti’n cael cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg tu allan i’r ysgol?

Ydw. Dw i’n aelod o gerddorfa’r sir, ac mae gen i ffrindiau o Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yno. Dw i’n siarad Cymraeg ‘da nhw, a gyda fy mam, sy hefyd wedi dysgu Cymraeg.

Beth sy wedi dy helpu fwyaf i ddysgu Cymraeg?

Roedd cychwyn Lefel A Cymraeg yn dipyn o sioc ar ôl TGAU, ac roedd dipyn anoddach. Un peth wnaeth fy helpu i llawer iawn oedd darllen llyfrau Cymraeg.

Roedd fy ffrindiau o Ysgol Glantaf wedi argymell llyfrau Cymraeg i mi, ac mae hynny wedi fy helpu i ddod i arfer gydag acenion gwahanol yng Nghymru. Un o fy hoff lyfrau oedd Craciau gan Bet Jones.

Dros yr haf, dw i’n gobeithio darllen Un Nos Ola Leuad.

Pwy yw dy hoff fand Cymraeg?

Does gen i ddim hoff fand, ond fy hoff gantores ydy Gwenno. Dw i’n mwynhau ei cherddoriaeth hi’n fawr.

Beth yw dy hoff raglen deledu Gymraeg?

Nes i fwynhau cyfres gomedi Jam ar Hansh ac ar y funud, dw i’n gwylio drama Enid a Lucy, sy’n wych!

Os dw i eisiau rhywbeth rhwydd i’w gwylio, dw i’n gwylio Ffit Cymru.

Oes gen ti hoff gyfrif Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol?

Dw i’n dilyn Hansh ar TikTok ac Instagram achos maen nhw’n trafod pethau sydd o ddiddordeb ac yn berthnasol i bobl ifanc trwy gyfrwng y Gymraeg.

Beth yw’r peth gorau am siarad Cymraeg?

Dw i’n caru’r ffordd mae’n swnio a hefyd yr hanes. A dw i jysd yn meddwl fod yr iaith yn ddiddorol – o ran sut mae’r geiriau wedi eu rhoi at ei gilydd a sut mae’r gramadeg mor wahanol i ieithoedd eraill.

Beth sy nesa i ti ar dy daith iaith?

Dw i eisiau parhau i ddysgu Cymraeg, a dw i am gario mlaen i wylio rhaglenni Cymraeg ar S4C.

Dw i hefyd yn gobeithio cychwyn ym Mhrifysgol Caergrawnt yn mis Medi, os caf i’r graddau, a hoffwn ymuno gyda’r Gymdeithas Gymraeg Mabinogion yno.  Maen nhw’n cynnig gwersi Cymraeg ac mae llawer o bobl yn dysgu Cymraeg yno.