Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Antonio

Holi Antonio

Mae Antonio dos Remedios ymhlith tua 50 o bobl ledled Cymru sy’n cychwyn ar eu blwyddyn gyntaf yn gweithio’n llawn amser neu ran amser fel tiwtor Dysgu Cymraeg.  Mae Antonio yn siaradwr Cymraeg newydd ei hun.

Fel rhan o’r broses hyfforddi, bu Antonio ar gwrs gyda thiwtoriaid newydd eraill ym Mhlas Tan-y-bwlch ger Porthmadog yn ddiweddar.

Dyma ychydig o’i hanes.

O ble rwyt ti'n dod a ble wyt ti'n byw nawr? 

Ces i fy ngeni yn Hong Kong, ond gwnaethon ni symud i Loegr pan o'n i'n ifanc.  Ond dw i'n byw ger Caernarfon ers rhyw naw mlynedd erbyn hyn.

Rwyt ti’n siaradwr Cymraeg newydd dy hun - pryd wnes di ddechrau dysgu Cymraeg a gyda phwy? 

Gwes i ddechrau dysgu Cymraeg wyth mlynedd yn ôl rŵan, gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin.  Ro’n i’n ffodus iawn o gael Bethan Glyn, a dderbyniodd Dlws y Tiwtor yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, yn fy nysgu, a thiwtoriaid gwych eraill.

Pa wahaniaeth mae dysgu Cymraeg wedi ei wneud i ti? 

Y peth mwya ydy'r bobl dw i wedi'u cyfarfod ers gallu siarad Cymraeg, a'r ffrindiau dw i wedi'u gwneud.  A dw i hefyd wedi magu mwy o hunan-hyder.

Beth wnaeth dy ddenu i hyfforddi i fod yn diwtor? 

Ro’n i isio rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned, ac mae’n bleser pur dysgu'r iaith i bobl eraill.

Sut oedd y penwythnos hyfforddi tiwtoriaid newydd ym Mhlas Tan-y-bwlch? 

Roedd o'n dda iawn - ces i lawer o syniadau, ond ro’n i'n fwy nerfus ar ôl y penwythnos!  Roedd y dosbarth yn teimlo’n fwy real ac yn fwy agos.

Sut mae’r dysgu’n mynd? 

Gwnes i ddechrau dysgu ym mis Hydref.  Mae 'na lawer i ddysgu o hyd, ond dw i'n dallt yn well be' ydy fy rôl erbyn hyn.