Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Sgwrs gyda Caryl Lewis

Sgwrs gyda Caryl Lewis
(Llun: Hawlfraint Sioned a Nia/Ffotograffiaeth)

 

Sgwrs gyda’r nofelydd Caryl Lewis:

 

O ble wyt ti’n dod? Beth yw dy gefndir?

Dw i’n dod yn wreiddiol o Ddyffryn Aeron. Ces i fy magu yn Aberaeron cyn symud i fferm ar bwys pentref Dihewyd pan yn 12 oed.

Sut wyt ti’n dechrau ysgrifennu nofel?

Mae proses pob awdur yn wahanol. Dw i’n meddwl am nofel am ddwy neu dair mlynedd cyn dechrau ysgrifennu ac yna’n rhoi geiriau i lawr ar bapur yn gyflym iawn.

Beth yw dy uchelgais?

Bod yn hapus.

Beth yw dy hoff beth a dy gas beth?

Hoff beth: Eistedd o flaen y tân ar ddiwrnod oer.
Cas beth: Pobl anghwrtais.

Beth wyt ti’n mwynhau ei wneud yn dy amser hamdden?

Dw i ddim yn cael llawer o amser hamdden- mae gen i dri o blant bach. Ond dw i’n hoff o gadw gwenyn a darllen llyfrau.

Y peth mwyaf doniol sydd wedi digwydd i ti?

Dw i’n cofio cael fy nghamgymryd am rywun arall. Fe wnes i chwarae rhwn y person hwnnw trwy’r dydd er mwyn osgoi embaras!

Y lle mwyaf diddorol i ti ymweld ag e?

Cors Caron - lle bendigedig i weld natur.

Dy hoff lyfr Cymraeg?

Mae fy hoff lyfr yn newid drwy’r amser – ond dw i yn hoff o ‘Traed Mewn Cyffion’ Kate Roberts.

Dy hoff air Cymraeg?

Splendigedig – dw i’n gwbod ei fod e ddim yn air go iawn, ond mae fy mhlant yn ei ddefnyddio erbyn hyn a dw innau yn hefyd!

Unrhyw neges i ddysgwyr y Gymraeg?

Peidiwch â bod ofn siarad Cymraeg – dw i wrth fy modd pan mae dysgwyr yn siarad â mi. Dw i’n edmygu eu hymrwymiad a’u hegni.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Anniben. Egnïol. Chwilfrydig.