Holi Catrin Dafydd
![Holi Catrin Dafydd](/media/5819/catrin-dafydd-bach.jpg)
Catrin Dafydd, yr awdur, cyflwynydd radio, llenor a’r bardd sy’n ateb cwestiynau Hawys Roberts o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Catrin oedd un o’r siaradwyr gwadd yng nghynhadledd genedlaethol ddiweddar y Ganolfan ar gyfer tiwtoriaid Dysgu Cymraeg. Mae Catrin wedi disgrifio dysgwyr Cymraeg fel “arwyr tawel yr iaith.” Fe holais i beth yn union oedd hi yn ei olygu:
Mae unrhyw un sy'n dewis dysgu Cymraeg yn cynnig gobaith i Gymru. Gyda nhw mae'r genhadaeth. Maen nhw wedi gwneud dewis eofn a gwych ac maen nhw'n arwyr.
Rho ddwy ffaith ddiddorol i ni amdanat ti dy hun.
Eleni, fe fues i i Affrica am y tro cyntaf erioed, i Gambia.
Er nad yw pobol yn meddwl hyn, rwy'n berson eithaf mewnblyg.
O ble wyt ti’n dod yn wreiddiol – rho rhywfaint o dy gefndir.
Rwy'n dod yn wreiddiol o bentref Gwaelod y Garth. Darn bach o gefn gwlad ar gyrion Caerdydd ac nid nepell o Bontypridd a'r cylch.
Beth wyt ti’n fwynhau ei wneud yn dy amser hamdden?
Rwy'n mwynhau codi pwysau, cymdeithasu gyda fy ffrindiau ac yfed coffi!
Beth sy’n dy ysbrydoli i ysgrifennu/barddoni?
Pobol a'r byd o fy amgylch sy'n fy ysbrydoli. A'r antur barhaus o geisio meddwl am straeon newydd a ffyrdd newydd o weld a datblygu Cymru a'r byd.
Pa unigolion sy’n ysbrydoliaeth i ti?
Mae pawb a'i faich ac o'r herwydd, mae pawb yn fy ysbrydoli i, gan gynnwys fi fy hun! Ry'n ni i gyd yn gwneud yn hynod o wych o dan yr amgylchiadau sydd o'n blaenau! Felly da iawn ni.
Alli di roi tri gair i ddisgrifio ti dy hun?
Creadigol, angerddol, chwilfrydig.
Disgrifa wythnos ym mywyd Catrin Dafydd i ni – yn fras!
Teipio wrth y ddesg, gwrando ar y radio, symud fy nghorff, gweld ffrindiau a theulu, coffi a cheisio gwneud yn siŵr mod i'n gweld rhifyn diweddaraf Made in Chelsea!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Amhosibl dewis. Mae'r wlad i gyd yn fy nghalon.
Y foment nath godi mwyaf o gywilydd arnat ti erioed?
Anghofio llinell dyngedfennol yn nrama'r ysgol a newid holl gwrs y ddrama o'r herwydd!
Dy hoff gân Gymraeg?
Ydy hyn yn gwestiwn teg? Mae degau! Ond heddiw, wna i ddweud Dom, Tafarn Paradwys er nad oes gen i fawr o fynedd gyda diwylliant Cymru sy'n obsessed gyda chymdeithasu gydag alcohol.
Dy hoff wyliau erioed?
Roedd Gambia yn wych. Ond Ciwba a theithio America Ganol dw i'n credu. Profiad bythgofiadwy a chwmni gwych ffrindiau bore oes.
Dy hoff air yn y Gymraeg?
Gallwn.
Dy gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?
Diolch sydd gen i. Dim cyngor. Mae unrhyw un sy'n dysgu Cymraeg yn rhodd i Gymru a'r byd. A dweud y gwir, efallai mai pobol sy'n dysgu Cymraeg ddylai rhoi cyngor i'r rheiny sydd wedi bod yn ddigon ffodus i'w dysgu fel plentyn.