Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Catrin Dafydd

Holi Catrin Dafydd

Catrin Dafydd, yr awdur, cyflwynydd radio, llenor a’r bardd sy’n ateb cwestiynau Hawys Roberts o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Catrin oedd un o’r siaradwyr gwadd yng nghynhadledd genedlaethol ddiweddar y Ganolfan ar gyfer tiwtoriaid Dysgu Cymraeg.  Mae Catrin wedi disgrifio dysgwyr Cymraeg fel “arwyr tawel yr iaith.”  Fe holais i beth yn union oedd hi yn ei olygu:

Mae unrhyw un sy'n dewis dysgu Cymraeg yn cynnig gobaith i Gymru.  Gyda nhw mae'r genhadaeth.  Maen nhw wedi gwneud dewis eofn a gwych ac maen nhw'n arwyr.

Rho ddwy ffaith ddiddorol i ni amdanat ti dy hun.
Eleni, fe fues i i Affrica am y tro cyntaf erioed, i Gambia.
Er nad yw pobol yn meddwl hyn, rwy'n berson eithaf mewnblyg.

O ble wyt ti’n dod yn wreiddiol – rho rhywfaint o dy gefndir.
Rwy'n dod yn wreiddiol o bentref Gwaelod y Garth. Darn bach o gefn gwlad ar gyrion Caerdydd ac nid nepell o Bontypridd a'r cylch.

Beth wyt ti’n fwynhau ei wneud yn dy amser hamdden?
Rwy'n mwynhau codi pwysau, cymdeithasu gyda fy ffrindiau ac yfed coffi!

Beth sy’n dy ysbrydoli i ysgrifennu/barddoni?

Pobol a'r byd o fy amgylch sy'n fy ysbrydoli. A'r antur barhaus o geisio meddwl am straeon newydd a ffyrdd newydd o weld a datblygu Cymru a'r byd.

Pa unigolion sy’n ysbrydoliaeth i ti?
Mae pawb a'i faich ac o'r herwydd, mae pawb yn fy ysbrydoli i, gan gynnwys fi fy hun! Ry'n ni i gyd yn gwneud yn hynod o wych o dan yr amgylchiadau sydd o'n blaenau! Felly da iawn ni.

Alli di roi tri gair i ddisgrifio ti dy hun?
Creadigol, angerddol, chwilfrydig.

Disgrifa wythnos ym mywyd Catrin Dafydd i ni – yn fras!
Teipio wrth y ddesg, gwrando ar y radio, symud fy nghorff, gweld ffrindiau a theulu, coffi a cheisio gwneud yn siŵr mod i'n gweld rhifyn diweddaraf Made in Chelsea!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Amhosibl dewis. Mae'r wlad i gyd yn fy nghalon.

Y foment nath godi mwyaf o gywilydd arnat ti erioed?
Anghofio llinell dyngedfennol yn nrama'r ysgol a newid holl gwrs y ddrama o'r herwydd!

Dy hoff gân Gymraeg?
Ydy hyn yn gwestiwn teg? Mae degau! Ond heddiw, wna i ddweud Dom, Tafarn Paradwys er nad oes gen i fawr o fynedd gyda diwylliant Cymru sy'n obsessed gyda chymdeithasu gydag alcohol.

Dy hoff wyliau erioed?
Roedd Gambia yn wych. Ond Ciwba a theithio America Ganol dw i'n credu. Profiad bythgofiadwy a chwmni gwych ffrindiau bore oes.

Dy hoff air yn y Gymraeg?
Gallwn.

Dy gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?
Diolch sydd gen i. Dim cyngor. Mae unrhyw un sy'n dysgu Cymraeg yn rhodd i Gymru a'r byd. A dweud y gwir, efallai mai pobol sy'n dysgu Cymraeg ddylai rhoi cyngor i'r rheiny sydd wedi bod yn ddigon ffodus i'w dysgu fel plentyn.