Holi Charlotte
Disgrifiad llun: Charlotte, dde, ar gwrs Dysgu Cymraeg yng Nghaerfyrddin
Yma, 'dyn ni’n dod i adnabod Charlotte. Aeth Charlotte ar gwrs Dysgu Cymraeg yng Nghaerfyrddin gyda chriw o bobl ifanc ym mis Gorffennaf.
Adnabod rhywun 18-25 oed sy eisiau dysgu? Mae gwybodaeth am gyrsiau ar gael ar y dudalen Cymraeg i Bobl Ifanc.
Pwy wyt ti ac o ble wyt ti’n dod?
Charlotte dw i. Ces i fy ngeni yn Lloegr, a fy magu ar arfordir de Lloegr a thramor, ond mae fy mam-gu a fy nhad-cu o Gymru. Fy hen, hen, hen, hen dad-cu oedd sylfaenwr Bragdy Felinfoel sy ar gyrion Llanelli.
Wyt ti’n astudio neu’n gweithio? Beth wyt ti’n ei wneud?
Graddiais o Brifysgol Caerdydd ym mis Gorffennaf 2023 gyda gradd mewn Hanes Modern a Gwleidyddiaeth.
Pam oeddet ti eisiau dysgu Cymraeg?
Am nifer o resymau! Roedd fy mam-gu a fy nhad-cu o Gymru, ond roedd fy nhad-cu yn hedfan hofrenyddion ar gyfer rigiau olew ym Môr y Gogledd, felly cafodd fy nhad ei fagu y tu allan i Gymru. Ro’n i eisiau ailgysylltu gyda fy ngwreiddiau Cymreig ac yn teimlo byddai dysgu’r iaith yn ffordd dda o wneud hynny. Dw i hefyd yn awtistig, ac mae gen i ddiddordeb mawr mewn ieithyddiaeth, felly roedd dysgu iaith o deulu ieithyddol newydd yn apelio’n fawr ata i. Ac wrth gwrs, gan fy mod i’n byw ac yn astudio yng Nghymru, yn naturiol, ro’n i eisiau rhoi cynnig ar ddysgu’r iaith.
Ers pryd wyt ti wedi bod yn dysgu Cymraeg? Wyt ti’n dilyn cwrs?
Dechreuais i ddysgu Cymraeg yn annibynnol yn y brifysgol yn 2020, gan ddefnyddio Duolingo ac adnoddau eraill oedd am ddim. Oherwydd amgylchiadau personol, bu’n rhaid i fi roi’r gorau i ddysgu am gyfnod ond yn 2022, des i ar draws cyrsiau Dysgu Cymraeg a chofrestru ar gwrs Mynediad. Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg ers hynny.
Beth oedd y peth gorau am y cwrs Dysgu Cymraeg yng Nghaerfyrddin?
Ar ôl graddio, symudais yn ôl i Loegr. Gwnes i wir fwynhau cael ein cyflwyno i’r iaith a phrofi’r diwylliant. Ro’n i’n hoffi nad oedd gormod o bwyslais ar yr iaith yn ystod y cwrs, cawson ni gyfle i gymdeithasu, mynd i ŵyl Gymraeg, Gŵyl Canol Dre, a chymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol.
Pryd a ble wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg?
Dw i’n defnyddio Duolingo bob dydd, ac yn anfon negeseuon yn Gymraeg at ffrindiau dw i wedi eu gwneud drwy gyrsiau Dysgu Cymraeg. Gyda fy nghŵn dw i’n defnyddio fy Nghymraeg fwyaf!
Beth yw dy gyngor i bobl ifanc eraill sy eisiau dysgu Cymraeg?
Ewch amdani! Mae cymaint o adnoddau ar gael, hyd yn oed os nad dych chi’n byw yng Nghymru. Mae’r iaith yn brydferth, yn farddonol, ac yn hwyl, a gall dysgu ychydig ehangu ar eich dealltwriaeth ddiwylliannol ohoni.
Beth yw’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?
Yn amlwg, does dim rhaid i chi allu siarad Cymraeg i deimlo’ch Cymreictod, ond i fi, oherwydd fy mod i’n byw yn Lloegr, mae siarad a gwrando ar yr iaith yn fy helpu i gofio a chysylltu gyda fy ngwreiddiau Cymreig.
Beth yw dy hoff air Cymraeg?
Archfarchnad. Dw i’n dwlu ar sŵn y gair!