Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Chloe

Holi Chloe

Roeddech chi’n gwybod fod tua 50 o diwtoriaid Dysgu Cymraeg newydd yn cychwyn gweithio y flwyddyn academaidd yma?

Mae’r tiwtoriaid yma ym mhob cwr o Gymru – rhai yn gweithio rhan amser, eraill yn llawn amser.

Un o’r rhai sy’n dechrau gweithio’n rhan amser fel tiwtor Dysgu Cymraeg yw’r athrawes ysgol gynradd, Chloe Edwards.

Bu ar gwrs hyfforddi gyda thiwtoriaid Dysgu Cymraeg eraill ym Mhlas Tan-y-bwlch ger Porthmadog yn ddiweddar.

Dyma ychydig o’i hanes:

O ble rwyt ti'n dod yn wreiddiol a ble rwyt ti'n byw nawr? 

Dw i'n dod o Crewe yn wreiddiol a dw i'n byw yn Sir Conwy rŵan.

Pryd wnest ti ddechrau dysgu Cymraeg? 

Gwnes i ddechrau dysgu Cymraeg pan oeddwn i yn fy nhrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor.

Pa wahaniaeth mae dysgu Cymraeg wedi ei wneud i ti? 

Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i mi.  Mae dysgu Cymraeg wedi agor drws i ddiwylliant, hanes a cherddoriaeth Cymru. 

Dw i wedi cael llawer o brofiadau bendigedig ers dysgu Cymraeg - profiadau fyddwn i ddim wedi eu cael heb iaith y nefoedd!

Beth wnaeth dy ddenu i hyfforddi i fod yn diwtor? 

Dw i wrth fy modd yn dysgu Cymraeg i blant yn yr ysgol ac ro’n i eisiau gweld a fyddai’n bosib dysgu oedolion hefyd.  

Sut oedd y penwythnos ym Mhlas Tan-y-bwlch? 

Roedd o'n wych!  Ro’n i’n ei gweld hi’n anodd deall rhai geiriau ond roedd pawb yn gefnogol iawn ac roedd yn gyfle da i mi ehangu fy ngeirfa. 

Pryd fyddi di yn dechrau dysgu? 

Ym mis Ionawr 2024.