Holi Clare
Yma, dan ni’n holi Clare Brathmere, dysgwraig sy wedi cyfrannu at gyfrol Y Daith, sef casgliad o 10 stori fer i ddysgwyr, gan ddysgwyr, a grëwyd fel rhan o brosiect ‘Creu Drwy’r Covid’ yn ystod haf 2020.
Pam wnaethoch chi ddechrau dysgu Cymraeg?
Ces i fy magu ym Mhenarlâg, Sir y Fflint, a doedd dim Cymraeg yn y gymuned. Yn yr ysgol, roedd gwersi Cymraeg yn orfodol tan y drydedd flwyddyn. Do’n i ddim yn mwynhau dysgu’r iaith felly nes i stopio yn y drydedd flwyddyn. Fues i’n byw yn Lloegr am flynyddoedd ac ar ôl dychwelyd i Gymru yn 2018, ro’n i’n benderfynol o ail-gydio yn yr iaith.
O ble ddaeth y syniad y tu ôl i’ch stori chi?
Dw i’n mwynhau straeon sy â thro yn eu cynffon, a dw i’n caru ysbrydion. Ro’n i am gyfuno’r ddau a chyflwyno elfen o dywyllwch hefyd. Ro’n i eisiau tri chymeriad yn unig a gosod y stori mewn tŷ crand yng nghefn gwlad. Dw i’n cofio gorwedd yn fy ngwely, a phendroni dros fanylion y stori, a datblygu’r golygfeydd a’r cymeriadau.
Sut wnaeth ysgrifennu eich helpu yn ystod y cyfnod clo?
Mi wnaeth y gwaith ysgrifennu dynnu fy sylw oddi ar y byd a’r newyddion oedd yn digwydd ar y pryd. Mewn ffordd, ges i fy nhrwytho ym myd Nia, sef prif gymeriad y stori, yn lle’r byd go iawn.
Dach chi’n gobeithio parhau i ysgrifennu?
Yn bendant. Ers i mi ysgrifennu stori ar gyfer Y Daith, dw i wedi cael cyfnod hynod o brysur felly dw i’n edrych ymlaen at aildanio fy nychymyg ac ehangu fy Nghymraeg ysgrifenedig ymhellach.
Unrhyw gyngor i ddysgwyr eraill sy eisiau ysgrifennu?
Rhowch gynnig arni ond defnyddiwch lefel yr iaith a’r geiriau sy’n gyfarwydd i chi. Does dim angen ysgrifennu rhywbeth cymhleth neu hir. Hefyd, peidiwch â phoeni am wneud camgymeriadau, bydd rhywun ar gael i’ch helpu bob tro.
Beth ydy’r cam nesaf i chi gyda dysgu Cymraeg?
Rhyw ddydd, baswn i wrth fy modd yn gweithio fel tiwtor, er mwyn helpu dysgwyr eraill brofi yr un llawenydd dw i wedi ei gael wrth ddysgu Cymraeg.