Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Clare

Holi Clare

Yma, dan ni’n holi Clare Brathmere, dysgwraig sy wedi cyfrannu at gyfrol Y Daith, sef casgliad o 10 stori fer i ddysgwyr, gan ddysgwyr, a grëwyd fel rhan o brosiect ‘Creu Drwy’r Covid’ yn ystod haf 2020.

Pam wnaethoch chi ddechrau dysgu Cymraeg?

Ces i fy magu ym Mhenarlâg, Sir y Fflint, a doedd dim Cymraeg yn y gymuned.  Yn yr ysgol, roedd gwersi Cymraeg yn orfodol tan y drydedd flwyddyn.  Do’n i ddim yn mwynhau dysgu’r iaith felly nes i stopio yn y drydedd flwyddyn.  Fues i’n byw yn Lloegr am flynyddoedd ac ar ôl dychwelyd i Gymru yn 2018, ro’n i’n benderfynol o ail-gydio yn yr iaith.

O ble ddaeth y syniad y tu ôl i’ch stori chi?

Dw i’n mwynhau straeon sy â thro yn eu cynffon, a dw i’n caru ysbrydion.  Ro’n i am gyfuno’r ddau a chyflwyno elfen o dywyllwch hefyd.  Ro’n i eisiau tri chymeriad yn unig a gosod y stori mewn tŷ crand yng nghefn gwlad.  Dw i’n cofio gorwedd yn fy ngwely, a phendroni dros fanylion y stori, a datblygu’r golygfeydd a’r cymeriadau.

Sut wnaeth ysgrifennu eich helpu yn ystod y cyfnod clo?

Mi wnaeth y gwaith ysgrifennu dynnu fy sylw oddi ar y byd a’r newyddion oedd yn digwydd ar y pryd.  Mewn ffordd, ges i fy nhrwytho ym myd Nia, sef prif gymeriad y stori, yn lle’r byd go iawn.

Dach chi’n gobeithio parhau i ysgrifennu?

Yn bendant.  Ers i mi ysgrifennu stori ar gyfer Y Daith, dw i wedi cael cyfnod hynod o brysur felly dw i’n edrych ymlaen at aildanio fy nychymyg ac ehangu fy Nghymraeg ysgrifenedig ymhellach.

Unrhyw gyngor i ddysgwyr eraill sy eisiau ysgrifennu?

Rhowch gynnig arni ond defnyddiwch lefel yr iaith a’r geiriau sy’n gyfarwydd i chi.  Does dim angen ysgrifennu rhywbeth cymhleth neu hir.  Hefyd, peidiwch â phoeni am wneud camgymeriadau, bydd rhywun ar gael i’ch helpu bob tro.

Beth ydy’r cam nesaf i chi gyda dysgu Cymraeg?

Rhyw ddydd, baswn i wrth fy modd yn gweithio fel tiwtor, er mwyn helpu dysgwyr eraill brofi yr un llawenydd dw i wedi ei gael wrth ddysgu Cymraeg.