Holi Colin
Yma, dan ni’n holi Colin Hughes, dysgwr sy wedi cyfrannu at gyfrol Y Daith, sef casgliad o 10 stori fer i ddysgwyr, gan ddysgwyr, a grëwyd fel rhan o brosiect ‘Creu Drwy’r Covid’ yn ystod haf 2020.
Pam wnaethoch chi ddechrau dysgu Cymraeg?
Dw i’n dod o Fagillt, Glannau Dyfrdwy, ac fel nifer o bobl eraill, ro’n i eisiau dysgu’r iaith roedd fy Nain a fy Nhaid yn siarad. Hefyd, ro’n i eisiau cyflawni rhywbeth newydd, a rhoi her i mi fy hun.
Ers pryd dach chi’n dysgu Cymraeg?
Dw i’n dysgu Cymraeg ers deg mlynedd. Nes i ddechrau dysgu ar fy mhen fy hun pan ro’n i’n byw yn Lloegr, ond erbyn hyn dw i’n mynd i ddosbarth wythnosol ar Zoom.
Dach chi’n ysgrifennu yn aml?
Dw i’n hoffi darllen llenyddiaith ac ro’n i eisiau rhoi cynnig ar ysgrifennu yn Gymraeg, felly mi wnes i benderfynu bod ymuno gyda phrosiect ‘Creu Drwy’r Covid’ efo Mared Lewis yn gyfle gwych.
Rhowch syniad bras i ni o gefndir eich stori chi?
Mi wnes i ysgrifennu stori fach am Gymro ifanc sy’n ysbïwr di-brofiad yn Fienna amser y Rhyfel Oer.
Sut wnaeth ysgrifennu eich helpu yn ystod y cyfnod clo?
Roedd gwella fy Nghymraeg trwy ysgrifennu yn rhywbeth difyr ac ymlaciol i’w wneud.
Unrhyw gyngor i ddysgwyr eraill sy eisiau ysgrifennu?
Ceisio gwella eich Cymraeg a threulio amser yn ysgrifennu. Dw i’n cofio Mared Lewis yn awgrymu ymarfer ysgrifennu am bynciau ar hap fel ffenestr, esgidiau, neu am rywun neu sefyllfa benodol.
Dach chi’n gobeithio parhau i ysgrifennu?
Yndw, ar hyn o bryd dw i’n trio ysgrifennu darnau rhyddiaith bach, rhwng tua 600-1000 o eiriau.