Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Colin

Holi Colin

Yma, dan ni’n holi Colin Hughes, dysgwr sy wedi cyfrannu at gyfrol Y Daith, sef casgliad o 10 stori fer i ddysgwyr, gan ddysgwyr, a grëwyd fel rhan o brosiect ‘Creu Drwy’r Covid’ yn ystod haf 2020.

Pam wnaethoch chi ddechrau dysgu Cymraeg?

Dw i’n dod o Fagillt, Glannau Dyfrdwy, ac fel nifer o bobl eraill, ro’n i eisiau dysgu’r iaith roedd fy Nain a fy Nhaid yn siarad.  Hefyd, ro’n i eisiau cyflawni rhywbeth newydd, a rhoi her i mi fy hun.

Ers pryd dach chi’n dysgu Cymraeg?

Dw i’n dysgu Cymraeg ers deg mlynedd.  Nes i ddechrau dysgu ar fy mhen fy hun pan ro’n i’n byw yn Lloegr, ond erbyn hyn dw i’n mynd i ddosbarth wythnosol ar Zoom.

Dach chi’n ysgrifennu yn aml?

Dw i’n hoffi darllen llenyddiaith ac ro’n i eisiau rhoi cynnig ar ysgrifennu yn Gymraeg, felly mi wnes i benderfynu bod ymuno gyda phrosiect ‘Creu Drwy’r Covid’ efo Mared Lewis yn gyfle gwych.  

Rhowch syniad bras i ni o gefndir eich stori chi?

Mi wnes i ysgrifennu stori fach am Gymro ifanc sy’n ysbïwr di-brofiad yn Fienna amser y Rhyfel Oer.  

Sut wnaeth ysgrifennu eich helpu yn ystod y cyfnod clo?

Roedd gwella fy Nghymraeg trwy ysgrifennu yn rhywbeth difyr ac ymlaciol i’w wneud.

Unrhyw gyngor i ddysgwyr eraill sy eisiau ysgrifennu?

Ceisio gwella eich Cymraeg a threulio amser yn ysgrifennu.  Dw i’n cofio Mared Lewis yn awgrymu ymarfer ysgrifennu am bynciau ar hap fel ffenestr, esgidiau, neu am rywun neu sefyllfa benodol.

Dach chi’n gobeithio parhau i ysgrifennu?

Yndw, ar hyn o bryd dw i’n trio ysgrifennu darnau rhyddiaith bach, rhwng tua 600-1000 o eiriau.