Bydd cyfle i ddysgwyr holi rhai o brif gyflwynwyr BBC Radio Cymru mewn sesiwn rithiol arbennig sy’n cael ei chynnal fel rhan o ‘Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg’ flynyddol yr orsaf rhwng 15-22 Hydref.
Bydd Aled Hughes, sy’n cyflwyno rhaglen bob bore, a’r newyddiadurwraig Kate Crockett, sy’n aelod o dîm rhaglen newyddion Dros Frecwast, yn cael eu holi nos Lun, 17 Hydref am 7yh. Mae’r sesiwn yn addas ar gyfer dysgwyr lefel Canolradd + ac mae modd cofrestru yma:
Cymraeg - Ar gau
Saesneg - Ar gau
Bydd nifer o uchafbwyntiau eraill yn ystod yr wythnos, sy’n cael ei threfnu ar y cyd gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
15 Hydref
Ar y Marc – Sgwrs am Zoom Pêl-droed – 8.30yb
16 Hydref
Beti a’i Phobol – Jo Healy (Dysgwr y Flwyddyn) - 1yp
Cofio – Iaith – 2yp
17 Hydref
Aled Hughes – Sgwrs gyda Kelly Webb-Davies - 9yb
Bore Cothi – 11yb
Ifan Evans – Takeover - 2yp
18 Hydref
Aled Hughes – Sgwrs gyda Laura Jones - 9yb
Bore Cothi – 11yb
Ifan Evans – Takeover - 2yp
Gwneud Bywyd yn Haws – Sgwrs gyda Ben Ó Ceallaigh, Sophie Tuckwood a Stephen Bale - 6yh
Georgia Ruth – 7yh
19 Hydref
Aled Hughes – Sgwrs gyda Eleanor Harding - 9yb
Bore Cothi – 11yb
Ifan Evans – Takeover - 2yp
20 Hydref
Aled Hughes – Sgwrs gyda Martyn Croydon - 9yb
Bore Cothi – 11yb
Ifan Evans – Takeover - 2yp
21 Hydref
Bore Cothi - 11yb
Bydd y Ganolfan yn cymryd y cyfle i dynnu sylw at wahanol weithgareddau yn ystod yr wythnos, gan gynnwys: ‘Ymlaen gyda’r Dysgu’, y ddarpariaeth Dysgu Cymraeg i bobl ifanc; cynllun Siarad, sy’n paru dysgwyr a siaradwyr Cymraeg; a chyfleoedd i weithio fel tiwtor Dysgu Cymraeg.