Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi cyflwynwyr Radio Cymru yn ystod yr Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg

Holi cyflwynwyr Radio Cymru yn ystod yr Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg

Bydd cyfle i ddysgwyr holi rhai o brif gyflwynwyr BBC Radio Cymru mewn sesiwn rithiol arbennig sy’n cael ei chynnal fel rhan o ‘Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg’ flynyddol yr orsaf rhwng 15-22 Hydref.

Bydd Aled Hughes, sy’n cyflwyno rhaglen bob bore, a’r newyddiadurwraig Kate Crockett, sy’n aelod o dîm rhaglen newyddion Dros Frecwast, yn cael eu holi nos Lun, 17 Hydref am 7yh.  Mae’r sesiwn yn addas ar gyfer dysgwyr lefel Canolradd + ac mae modd cofrestru yma:

Cymraeg - Ar gau

Saesneg - Ar gau

Bydd nifer o uchafbwyntiau eraill yn ystod yr wythnos, sy’n cael ei threfnu ar y cyd gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

15 Hydref

Ar y Marc – Sgwrs am Zoom Pêl-droed – 8.30yb

16 Hydref

Beti a’i Phobol – Jo Healy (Dysgwr y Flwyddyn) - 1yp

Cofio – Iaith – 2yp

17 Hydref

Aled Hughes – Sgwrs gyda Kelly Webb-Davies - 9yb

Bore Cothi – 11yb

Ifan Evans – Takeover - 2yp

18 Hydref

Aled Hughes – Sgwrs gyda Laura Jones - 9yb

Bore Cothi – 11yb

Ifan Evans – Takeover - 2yp

Gwneud Bywyd yn Haws – Sgwrs gyda Ben Ó Ceallaigh, Sophie Tuckwood a Stephen Bale - 6yh

Georgia Ruth – 7yh

19 Hydref

Aled Hughes – Sgwrs gyda Eleanor Harding - 9yb

Bore Cothi – 11yb

Ifan Evans – Takeover - 2yp

20 Hydref

Aled Hughes – Sgwrs gyda Martyn Croydon - 9yb

Bore Cothi – 11yb

Ifan Evans – Takeover  - 2yp

21 Hydref

Bore Cothi - 11yb

Bydd y Ganolfan yn cymryd y cyfle i dynnu sylw at wahanol weithgareddau yn ystod yr wythnos, gan gynnwys: ‘Ymlaen gyda’r Dysgu’, y ddarpariaeth Dysgu Cymraeg i bobl ifanc; cynllun Siarad, sy’n paru dysgwyr a siaradwyr Cymraeg; a chyfleoedd i weithio fel tiwtor Dysgu Cymraeg.