Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Daniel Minty

Holi Daniel Minty

Yma, ’dyn ni’n holi Daniel Minty.  Mae Daniel yn dysgu Cymraeg ers Medi 2022, ac mae’n gweithio fel Swyddog Datblygu Cymunedol gyda Menter Iaith Casnewydd.  Minty sy wedi ennill gwobr Dechrau Arni – Dysgu Cymraeg, gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith eleni.

O ble wyt ti’n dod?

Dw i’n dod o’r Cymoedd, ond dw i’n byw yng Nghaerdydd nawr.

Pam dechrau dysgu Cymraeg?

Pan ro’n i’n fach, doedd dim Cymraeg yn y tŷ, ac es i i ysgol ddi-Gymraeg ym Mhontllanfraith.  Ar ôl gorffen yn y brifysgol ym Mryste, gwnes i wirfoddoli gyda Gŵyl Sŵn.  Gwnes i syrthio mewn cariad â cherddoriaeth Gymraeg, a phenderfynu dysgu’r iaith.

Pa wahaniaeth mae dysgu Cymraeg wedi ei wneud i ti?

Llawer!  Dw i wedi cael swydd gyda Menter Iaith Casnewydd, ble dw i’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd.  Yn y cyfweliad, ro’n i mor nerfus, ond yn hapus iawn i gael y swydd.  Dw i eisiau diolch i Meilyr, Elin ac Aron, tiwtoriaid Dysgu Cymraeg Caerdydd, a Nigel o Sir Gaerfyrddin am helpu fi.

Sut wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg yn y gwaith?

Dw i’n trefnu digwyddiadau i bobl ifanc a theuluoedd yn y gymuned.  Dw i’n trefnu grwpiau sgwrsio a darllen, a sesiynau mynd â’r ci am dro.  Dw i’n dwlu defnyddio’r Gymraeg bob dydd.

Pam bod annog eraill i ddysgu Cymraeg yn bwysig i ti?

Mae dysgu Cymraeg wedi newid fy mywyd.  Dw i eisiau rhannu hynny gyda phawb.  Dw i’n teimlo’n lwcus iawn, achos dw i’n defnyddio’r iaith bob dydd.  Ers dechrau’r swydd, mae fy Nghymraeg wedi gwella llawer.  Dw i eisiau annog eraill i ddysgu, a defnyddio’r iaith.

Llongyfarchiadau ar ennill Gwobr Dechrau Arni.  Sut oedd hynny?

Ces i sioc fawr!  Ond dw i’n hapus iawn, a gwnes i fwynhau’r seremoni.

Beth yw dy gyngor i bobl sy eisiau dysgu Cymraeg?

Dych chi’n mynd i wneud camgymeriadau, ond does dim ots.  Beth am ddefnyddio brawddegau byr bob dydd, fel ‘Wyt ti eisiau’ neu ‘Wyt ti’n hoffi?’.  Gwneud newidiadau bach sy angen, dych chi’n gallu gwneud e.

Beth nesaf gyda dysgu Cymraeg?

Dw i wedi dechrau lefel Uwch 1, a dw i’n cymryd rhan yn Her yr Hydref gyda Chyngor Llyfrau Cymru.  Felly, dw i angen darllen llawer cyn diwedd y mis!

Minty a Dona

Daniel gyda Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn seremoni wobrwyo Ysbrydoli! y Sefydliad Dysgu a Gwaith.