Holi David
Mae David Robinson yn artist ac mae wedi dysgu Cymraeg.
Cafodd ei eni yn Lloegr, ond mae’n byw ym Mhorthcawl ac mae’n defnyddio’r Gymraeg yn y gymuned bob dydd.
Bydd David yn arddangos darn o gelf yn Y Lle Celf ar faes yr Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf fis Awst.
Dyma ychydig o’i hanes.
O ble dych chi’n dod?
Ces i fy ngeni yng Nghaer, a fy magu yn Swydd Gaerhirfryn. Dw i wedi byw mewn nifer o lefydd dros y blynyddoedd, ond gwnes i symud i Borthcawl yn 2021.
Ers pryd dych chi’n dysgu Cymraeg?
Gwnes i ddechrau dysgu Cymraeg tua 10 mlynedd yn ôl, pan o’n i’n byw yn Rhydychen. Roedd cwrs awr yr wythnos yn y brifysgol. Ar ôl i fi symud i Swindon, gwnes i barhau gyda SaySomethinginWelsh. Wedyn, gwnes i ddechrau cwrs Sylfaen ar-lein gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd ar ôl symud i Borthcawl.
Pam dechrau dysgu Cymraeg?
Pan wnes i gwrdd â fy ngŵr Mark, roedd e’n byw yng Nghaerdydd. Wrth ymweld â fe, a theithio o gwmpas Cymru gyda’n gilydd, ro’n i eisiau dysgu mwy am Gymru a’r iaith Gymraeg.
Ydy’r Gymraeg wedi helpu eich gyrfa fel artist?
Ydy, mae cwsmeriaid, dilynwyr a chyd-artistiaid yn siarad Cymraeg â fi. Dyna pam mae fy ngwaith yn ddwyieithog; fideos YouTube, bwletinau e-bost, cardiau, teitlau paentiadau neu anfonebau.
Beth dych chi’n ei wneud yn yr Eisteddfod eleni?
Ar ddydd Sadwrn, bydda i yn y Lle Celf achos bydd darn o waith gen i yn yr arddangosfa. Ddydd Sul, bydd trip capel i’r gwasanaeth ar y maes. Yna ar ddydd Mercher, bydda i’n mynd i ddigwyddiad ym Maes D, felly dw i’n edrych ymlaen at yr wythnos.
Dych chi’n hoffi dysgu ieithoedd?
Ydw. Mae dysgu ieithoedd wedi cyfoethogi fy mywyd. Gwnes i ddysgu Ffrangeg a Sbaeneg yn y brifysgol, ac roedd astudio dramor yn fraint.
Dych chi’n hoffi darllen llyfrau Cymraeg?
Ydw, dw i’n hoffi llyfrau ffeithiol. Dw i wedi prynu tri llyfr newydd yn ddiweddar - ‘Hanes yn y tir’ gan Elin Jones, ‘Cymru’r Cynfas’ gan Hywel Harries ac ‘Arlunwyr mawr y byd’ gan Myfi Williams. Digon i fy nghadw’n brysur!
Beth dych chi’n ei gyfrannu i’r papur bro lleol?
‘Yr Hogwr’ ydy ein Papur Bro yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Dros y blynyddoedd, dw i wedi cyfrannu ryseitiau syml, newyddion am fy ngwaith celf a digwyddiadau cymunedol.
Sut mae’r Gymraeg wedi agor drysau i chi?
Dw i wedi dod i adnabod pobl arbennig; yn fy nosbarth Cymraeg, yn y capel, mewn digwyddiadau lleol ac ar-lein, heb anghofio cael cymryd rhan yn yr Eisteddfod.
Unrhyw gyngor i eraill sy eisiau dechrau dysgu Cymraeg?
Ymunwch â chwrs a chwiliwch am weithgareddau sydd o ddiddordeb er mwyn ymarfer eich Cymraeg. Er enghraifft boreau coffi, corau, capeli, teithiau cerdded - mae cyfleoedd ym mhob ardal, ewch i chwilio amdanyn nhw!