Holi Dr Hywel Griffiths
Mae Dr Hywel Griffiths yn fardd, yn brifardd, yn ddarlithydd ac yn dad. Dewch i ni ddod i wybod mwy amdano.
O ble wyt ti’n dod? Rho rhywfaint o dy gefndir i ni.
Dw i’n dod o Langynog, Sir Gâr yn wreiddiol. Ar ôl mynd i’r ysgol gynradd leol yn Llangynog, ac yna Ysgol Gyfun Bro Myrddin, fe wnes i astudio am radd mewn daearyddiaeth a mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac, ar wahân i gyfnod o rhyw flwyddyn a hanner, yng ngogledd Ceredigion dw i wedi bod ers hynny! Fuodd Alaw, Lleucu, Morgan a finne yn byw ym mhentref Tal-y-bont tan inni symud yn ôl i’r dre rhyw flwyddyn yn ôl.
Yn lle wyt ti’n gweithio ar hyn o bryd?
Yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth fel uwch-ddarlithydd mewn daearyddiaeth ffisegol. Dw i’n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf, ac yn ymchwilio ym maes afonydd a llifogydd.
Dy uchelgais?
Dw i wedi bod yn ddigon ffodus i wireddu sawl uchelgais eisoes o ran magu teulu a chael llwyddiannau eisteddfodol. Dw i’n gobeithio gallu parhau i fwynhau bywyd teuluol a chadw cydbwysedd rhwng gwaith a hamdden!
Dy hoff beth a dy gas beth?
Hoff beth: Nosweithiau Sadwrn hydrefol adre gyda’r teulu.
Cas beth: Betys
Beth wyt ti’n mwynhau ei wneud yn dy amser hamdden?
Darllen, ysgrifennu, gwylio ffilmiau, cerdded a rhedeg (weithiau!).
Y peth mwyaf doniol sydd wedi digwydd i ti?
Prynu siaced ledr am fargen mewn siop elusen a sylweddoli ar ôl ei gwisgo rhyw deirgwaith mai siaced menyw oedd hi!
Y lle mwyaf diddorol i ti ymweld ag e?
Rhaeadrau Augrabies a Ritchie ar Afon Oren, de Affrica. Rhaeadr Augrabies yw’r rhaeadr uchaf ar yr afon ac mae Rhaeadr Ritchie ar y ffin rhwng De Affrica a Namibia. Mae’r cyfuniad o dirffurfiau afonol anhygoel, y gwres, y babwns (!), a’r teimlad o fod mor agos at ffin arunig yn creu ymdeimlad o le arbennig iawn.
Dy hoff lyfr Cymraeg?
Llygad y Drws, T.E. Nicholas.
Dy hoff air Cymraeg?
Yr un diweddaraf i Morgan ei ddweud.
Unrhyw neges i ddysgwyr y Gymraeg?
Diolch o galon a phob hwyl! Peidiwch â bod ofn dechrau pob sgwrs yn Gymraeg.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Blinedig, creadigol, hapus.