Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi dysgwyr o Went

Holi dysgwyr o Went

Mae Sheilagh Fishlock a Lorraine Chicken yn dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent. Mae’r ddwy yn edrych ymlaen yn fawr at ŵyl Ar Lafar ddydd Sadwrn 6 Ebrill. Fe wnaethon ni eu holi pam eu bod yn mwynhau dysgu’r Gymraeg.

Beth dych chi’n ei fwynhau am ddysgu’r Gymraeg?

Lorraine: Dw i’n mwynhau dysgu am ddiwylliant.  Mae teulu Cymraeg gyda fi.
Sheilagh: Dw i’n mwynhau mynd i ddigwyddiadau Cymraeg a Chymreig a dechrau deall beth sy’n digwydd!

Beth yw’ch hoff air Cymraeg?

Sheilagh: ‘Wastad’ ac ‘o gwbl’.  Maen nhw’n hwyl i’w dweud. 
Lorraine: ‘Teulu’ ond dw i ddim yn siwr pam!

Pam dych chi eisiau mynd i Ar Lafar?

Sheilagh: I fwynhau’r diwrnod. 
Lorraine: I gwrdd â dysgwyr eraill.

Beth dych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf?

Lorraine: Dw i’n edrych ymlaen at y gweithdai crefftau – dw i’n hoffi crefft.
Sheilagh: Dw i ddim yn siwr felly bydd hi’n syrpreis i fi!

Yn ystod Ar Lafar bydd dysgwyr yn cael cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau o ffeltio i greu sampler, o weithdai gwaith copr, hollti a naddu llechi, printio a chreu mapiau hynafol. Bydd yna gwisiau, teithiau tywys, perfformiadau theatrig, ffilmiau a cherddoriaeth hefyd. Bydd y gweithgareddau i gyd wedi eu teilwra ar gyfer dysgwyr o wahanol lefelau, ac mae croeso i bawb! Mwy o wybodaeth am yr ŵyl ar gael yma