Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Elizabeth

Holi Elizabeth

Cafodd Elizabeth Liney ei magu yn yr Alban.  Symudodd i Ferthyr Tudful pan oedd hi’n 14 oed. 

Mae hi’n byw yn Hatfield, Swydd Hertford, sy tua 20 milltir i’r gogledd o Lundain.

Dyma ychydig o’i hanes yn dysgu Cymraeg.

Pryd a pham wnaethoch chi ddechrau dysgu Cymraeg?

Ym Merthyr Tudful, cyn mynd i’r brifysgol yn Llundain, treuliais i bedair blynedd hapus dros ben yn ymdrochi fy hunain yn niwylliant Cymru.  Roedd pobl y cymoedd yn gyfeillgar iawn ac ethos Gymreig yn Ysgol Ramadeg Castell Cyfarthfa.

Ro’n i’n dyheu am ddysgu’r Gymraeg ond yn anffodus ches i ddim cyfle yn y 1960au.  Felly, dim ond breuddwyd oedd siarad Cymraeg am amser hir.

Yna, 10 mlynedd yn ôl, dechreuais i ddysgu Cymraeg gyda thiwtor, am awr yr wythnos, dros Skype ac ambell benwythnos gyda Dysgu Cymraeg Gwent. 

Dros y cyfnod clo, symudodd cyrsiau Dysgu Cymraeg ar-lein i bawb ac ymunais i â dosbarth wythnosol.  Roedd dysgu mewn sefyllfa ddosbarth yn hollol wahanol i ddysgu gyda thiwtor dros Skype.  Roedd rhaid i fi fagu hyder i siarad o flaen pobl do’n i ddim yn eu hadnabod yn dda.

Beth yw’r peth gorau am siarad Cymraeg?

Y croeso cynnes dw i wedi ei gael gan Gymry Cymraeg yw’r peth gorau am siarad Cymraeg.

Sut mae eich bywyd wedi newid ers dysgu siarad Cymraeg?

Ers dysgu siarad Cymraeg mae fy mywyd wedi newid mewn sawl ffordd.  Dw i wedi gwneud ffrindiau da yng Nghymru a thu hwnt.

Dw i’n mwynhau mynd i Gymru i gyfarfod ffrindiau newydd a chael blas ar fywyd trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Dw i hefyd yn mwynhau bod yn aelod o gymdeithas Cymry Llundain – dathlu, er enghraifft, Y Fari Lwyd, Oedfa Blygain a chymanfa ganu yn ogystal â chwrdd i gerdded a chael clonc

Mae cyrsiau Dysgu Cymraeg a sgwrsio gyda fy mhartner Siarad, Dr Elin Jones, wedi magu fy niddordeb yn hanes Cymru a dw i wrth fy modd yn dod o hyd i bethau Cymreig mewn mannau annisgwyl yn Lloegr.

Mae Cymraeg wedi fy nghyflwyno i fyd hollol newydd o lyfrau ac awduron hefyd.

Beth yw eich cyngor i rywun sy eisiau dysgu’r iaith?

Ewch amdani!

Edrychwch ar wefan dysgucymraeg.cymru ble mae cyrsiau ar gyfer dechreuwyr ar-lein neu wyneb yn wyneb ledled Cymru. 

Ar ôl hynny, daliwch ati, manteisiwch ar bopeth sy’n cael ei gynnig a siaradwch a darllenwch yn aml.

Mae hi’n daith sy werth ei chymryd.