Holi Emily, un o Diwtoriaid Yfory
Un arall o’r criw aeth ar gwrs Tiwtoriaid Yfory 2025 y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yw Emily Evans o Ystalyfera yng Nghwm Tawe. Mae Emily ar fin cwblhau gradd Doethuriaeth yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.
Cawson ni air ag Emily i’w holi am y cwrs.
Pam roeddet ti eisiau gwneud y cwrs Tiwtoriaid Yfory?
Pan ro’n i’n astudio ar gyfer fy ngradd doethuriaeth, ro’n i’n gweithio yn Nhŷ’r Gwrhyd, sef y Ganolfan Gymraeg ym Mhontardawe. Ro’n i’n gweld dysgwyr yn cael eu gwersi yno, a chlywed tiwtoriaid yn addysgu, ac ro’n i’n meddwl i fy hun, baswn i’n dwlu gwneud rhywbeth fel ’na – mae’n swydd hynod werthfawr – felly es i amdani a gwneud cais.
Sut aeth y cwrs?
Gwnes i wir joio’r cwrs. Dysgais i gymaint. Roedd yn gyfle da i gael blas ar rôl y tiwtor a’r sector Dysgu Cymraeg. Roedd y cwrs pythefnos yn brofiad anhygoel. Roedd yn gyfle gwych i greu cysylltiadau newydd, a dw i wedi gwneud ffrindiau da ers y cwrs. Baswn i’n sicr yn gwneud y cwrs eto taswn i’n gallu.
Rho flas i ni o’r cwrs...
Cawson ni amrywiaeth o sesiynau gwerthfawr. Un o’r uchafbwyntiau i fi oedd arsylwi gwersi, a gweld y tiwtoriaid wrth eu gwaith, a dysgu wrth eu technegau dysgu nhw. Cawson ni gyfle i siarad â dysgwyr, a chlywed am eu siwrnai nhw gyda’r Gymraeg.
Ar ddiwedd y pythefnos, roedd pob un ohonon ni’n cael y profiad o wneud meicro wers. Roedd hyn yn gyfle i ni roi popeth ro’n ni wedi’i ddysgu ar waith. Gwnes i wir fwynhau’r profiad hyn.
Beth faset ti’n ei ddweud wrth unrhyw un sy’n ystyried gyrfa fel tiwtor Dysgu Cymraeg?
Ewch amdani yn sicr. Roedd y cwrs yn brofiad anhygoel, a daethon ni fel criw i ’nabod ein gilydd mor dda. Doedd neb eisiau gadael ar ddiwedd y pythefnos!
Roedd y cwrs yn agoriad llygad i’r holl gyfleoedd a’r llwybrau gwahanol sy ar gael o fewn y sector.
Beth sy nesaf i ti?
Dw i ar fin cwblhau’r PhD, a dw i wedi cael swydd lawn-amser yn adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe fel Tiwtor. Bydda i’n dechrau’r swydd ym mis Ionawr. Dysgais i gymaint ar gwrs Tiwtoriaid Yfory, a galla i roi’r hyn a ddysgais ar waith yn fy swydd newydd. Mae’r cwrs wedi rhoi’r hyder ro’n i ei angen i fynd ati i ddysgu myfyrwyr.
Am ragor o wybodaeth am y cynllun, ac i wneud cais, dilynwch y ddolen nesaf: Tiwtoriaid Yfory